Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gweithio gydag ysgolion i sicrhau ailagor yn ddiogel

  • Categorïau : Press Release
  • 27 Awst 2020
Back to school

Rydym wedi parhau i weithio’n agos at ysgolion i sicrhau eu bod nhw’n agor mewn modd diogel ac effeithiol i’ch plentyn o 7 Medi.

O 1 Medi, bydd pob ysgol yn cynnal sesiynau paratoi ail-addasu ac ailfodelu i sicrhau eu bod yn glynu at y canllaw diweddaraf ac yn gallu croesawu plant yn ôl o 7 Medi.

Caiff manylion am ba ddyddiau a pha amseroedd y dylai eich plant / plentyn fynychu gael eu cadarnhau gan ysgolion unigol a byddant yn cynnwys canllawiau manwl am fannau mynediad ac allanfa i safleoedd yr ysgol.

Bydd ysgolion yn gwbl agored i’r holl ddysgwyr o 14 Medi, yr unig eithriad fydd plant meithrin – byddan nhw ‘n dod yn ôl yn dilyn trefn am yn ail drwy gydol mis Medi.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddysgu y Cynghorydd Lisa Mytton: “Rydym yn deall y gallech chi fod yn orbryderus am anfon eich plentyn yn ôl i’r ysgol, ond gallwn dawelu eich meddwl ein bod ni’n gweithio’n agos at ein hysgolion i weithredu canllaw Llywodraeth Cymru i gefnogi eich plant a’n pobl ifanc.  

“Mae’r ymateb oddi wrth ein sector addysg i Covid-19 wedi bod yn eithriadol. Gwnaethom ni weithio gyda’n hysgolion ar ddiwedd tymor yr haf i ddarparu gofal plant i weithwyr allweddol a threfnu sesiynau ‘dod mewn a dala lan’ i grwpiau o ddysgwyr – a byddwn yn parhau i weithio gyda’n gilydd i ddychwelyd at weithio gyda’r ysgol gyfan mewn modd diogel ac effeithiol.

“Bydd ymatebion i’r tirlun newidiol o ganlyniad i Covid-19 yn parhau i fod yn hyblyg. Ond gallwn dawelu eich meddwl y byddwn yn parhau i weithio gyda’n hysgolion i adolygu systemau a phrosesu wrth i newidiadau ddigwydd.”

Negeseuon Allweddol:

  • Ar gyfer yr wythnos yn dechrau 7 Medi ni fydd cyfleusterau arlwyo yn yr ysgolion a bydd yn ofynnol i BOB plentyn ddod â phecyn bwyd.
  • Bydd trefnu am yn ail yn digwydd i amseroedd dechrau ac amserodd gorffen hyd nes y bydd canllaw pellach am gadw pellter cymdeithasol
  • Ni fydd Clybiau Brecwast yn rhedeg ar ddechrau’r tymor ond bydd ystyriaeth bellach o’r ddarpariaeth hon drwy gydol yr ychydig wythnosau cyntaf
  • Os oes oedolyn arall yn dod â’ch plentyn/plant i’r ysgol, sicrhewch ei fod wedi gweld ac wedi arwyddo polisi defnydd derbyniol yr ysgol ar gyfer gwiriadau iechyd
  • O ran disgyblion oedran uwchradd, bydd angen gwisgo mwgwd ar drafnidiaeth ysgol AC ym mhob ardal gymunol o’r ysgol

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni