Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn cefnogi Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2020

  • Categorïau : Press Release
  • 10 Hyd 2020
WMHD2020

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn falch i fod yn cefnogi Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd heddiw, Dydd Sadwrn 10 Hydref 2020.

Gall problemau iechyd meddwl effeithio ar bawb, unrhyw ddiwrnod o’r flwyddyn ond mae heddiw #WMHD2020 yn ddiwrnod gwych i ddangos eich cefnogaeth i well iechyd meddwl a dechrau edrych ar ôl eich llesiant chi eich hun.

Mae angen i bob un ohonom ofalu am ein hiechyd meddwl a’n llesiant boed hynny os oes gennym broblem iechyd meddwl ai peidio.

Mae problemau iechyd meddwl yn effeithio ar bron i un o bob pedwar o bobl, trwy gydol y flwyddyn.

Dyma neges y Cynghorydd Chris Davies, Aelod o’r Cabinet ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Peidiwch â dioddef yn dawel nac ar eich pen eich hun. Mae cymorth ar gael ac mae rhywun yno bob amser i wrando arnoch. Mae’n iawn i beidio bod yn iawn ond sicrhewch eich bod yn siarad ac yn rhannu’ch teimladau. Gall rhannu problem fod yn fuddiol.

Mae’r Cyngor yn falch i allu cydweithio â Fforwm Iechyd Meddwl Cwm Taf Morgannwg er mwyn goleuo’r Redhouse yn wyrdd y penwythnos hwn a hynny er mwyn cydnabod pwysigrwydd edrych ar ôl eich iechyd meddwl a’ch llesiant.

Mae’r Cynghorydd Declan Sammon sydd yn Eiriolwr Iechyd Meddwl yn ein hatgoffa: “Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2020 yw’r pwysicaf eto. Mae’r cyfnod clo wedi cael effaith enfawr ar bob un ohonom ac nid yw blaenoriaethu oechyd meddwl erioed wedi bod mor bwysig.”

Isod, mae rhai pethau y dylid eu hystyried er mwyn eich cynorthwyo i gynnal iechyd meddwl da:

1)    Siaradwch am eich teimladau a chadwch mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau.

2)    Cadw’ch yn heini a sicrhewch eich bod yn ymlacio ac yn cael digon o gwsg.

3)    Bwytwch yn dda gan yfed yn synhwyrol.

4)    Byddwch yn gaedig i eraill a gofynnwch am gymorth.

5)    Gwnewch bethau yr ydych yn mwynhau eu gwneud. 

6)    Cofiwch am Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd a bod pobl yn poeni ac yma i wrando a chynorthwyo – dydych chi fyth ar eich pen eich hun.

 

#mentalhealthmatters #itsgoodtotalk #WMHD2020

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau