Ar-lein, Mae'n arbed amser

Penseiri byd enwog i ddylunio ‘Cynllun Cyfarthfa’ Merthyr Tudful

  • Categorïau : Press Release
  • 14 Awst 2019
Cyfarthfa furnaces

Mae pensaer byd enwog am arwain tîm o ymgynghorwyr gwobrwyedig rhyngwladol i ddatblygu cynllun meistr i droi ardal dreftadaeth Cyfarthfa Merthyr Tudful yn ganolfan dreftadaeth ddiwydiannol o arwyddocâd rhyngwladol.

Cafodd Penseiri Ian Ritchie (iRAL) eu dewis gan y Cyngor Bwrdeistref Sirol a Chomisiwn Dylunio Cymru i ddatblygu cynllun meistr ar gyfer canolfan ddehongli fodern i arddangos y dref fel pair y chwyldro diwydiannol a chynhyrchydd haearn mwya’r yn y 18fed a’r 19eg ganrif.

Gofynnwyd i’r tîm ddatblygu cynllun 20 mlynedd ar gyfer Castell Cyfarthfa a’i barc 190 erw - cartref teulu’r Crawshay, meistri haearn enwog o’r 19eg ganrif - ac ardal i’r gorllewin o Afon Taf sy’n cynnwys ffwrneisi hanesyddol. Disgwylir i ymarferiad y cynllun meistr gymryd 12 mis a bydd yn cynnwys ymgynghoriad cymunedol helaeth.

Mae Penseiri Ian Ritchie wedi ennill mwy na 60 o gystadlaethau yn Ewrop a’r DU, a derbyn dros 100 o wobrau cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys dwy wobr arloesi ryngwladol. Cafodd y practis hwn ei enwebu bedair gwaith am Wobr Stirling, gwobr bensaernïol fwyaf y DU, a dwywaith am Wobr Mies sy’n wobr fawreddog yn Ewrop.

Cydweithiodd Ian Ritchie â’r pensaer Tsieineaidd-Americanaidd, IM Pei, drwy ei bractis dylunio peirianyddol RFR, a leolir ym Mharis, ar ddyluniad y pyramid gwydr enwog yn y Louvre. Gwnaeth ei bractis hefyd ddylunio’r meindwr 120 metr o uchder yn Nulyn a’r tyrau lifft gwydr nodedig yn Amgueddfa Reina Sofia yn Madrid. Mae’r practis hefyd wedi cynhyrchu cynlluniau meistr i ddatblygu’r Amgueddfa Brydeinig a Phont Humber. Yn ddiweddar cwblhaodd iRAL drawsffurfiad clodfawr theatr opera yr Academi Gerdd Frenhinol a’r neuadd berfformio newydd, gan ennill dros 20 o wobrau cenedlaethol a rhyngwladol.

Bydd iRAL yn arwain tîm aml ddisgybledig sy’n cynnwys penseiri tirlun enwog Gustafson Porter + Bowman (GP+B), a enillodd gomisiwn ail ddylunio’r ardal o gwmpas Twr Eiffel yn ddiweddar. Mae GP+B hefyd wedi dylunio Ffynnon Goffa Diana, Tywysoges Cymru yn Llundain.

Mae’r tîm hefyd yn cynnwys arbenigedd peirianneg ac ecolegol o du Arup Consulting ac arbenigedd treftadaeth ddiwylliannol a chynllunio busnes gan Fourth Street, practis sydd wedi cynghori ar ddatblygu’r Hen Goleg ar lan y môr ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn ogystal â’r Cavern Quarter yn Lerpwl.

Dywedodd Aelod Cabinet Merthyr Tudful dros Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd, y Cynghorydd Geraint Thomas,: “Roedden ni wedi’n plesio’n fawr o weld ehangder y lefel uchel o sgiliau yn y tîm hwn sy’n enwog yn rhyngwladol – nid yn unig y penseiri fel arweinwyr, ond y penseiri tirlun, ymgysylltiad cyhoeddus a thimau cynllunio busnes.

“Mae pob partner yn strwythur tîm cydweithredol o ansawdd ac enw da rhyngwladol, ac rydym yn hyderus y byddant yn datblygu cynllun a fydd yn galluogi Cyfarthfa a Merthyr Tudful i gael y gydnabyddiaeth ryngwladol y mae hanes y dref yn ei haeddu.”

Dywedodd Ian Ritchie: “Mae pawb sydd yn nhîm y prosiect wrth eu boddau o fod wedi cael eu dewis i weithio â Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, a’r cyhoedd ehangach i ddatblygu Cynllun Cyfarthfa.

“Wrth ail-ddychmygu treftadaeth ddiwydiannol Merthyr Tudful rhaid edrych y tu hwnt i’r ôl-ddiwydiannol at y dyfodol,” ychwanegodd. “Rhaid iddo gyflenwi dyfodol creadigol sy’n seiliedig ar arweiniad amgylcheddol, datblygiad addysgiadol dyfeisgar, gwir werth cymdeithasol, cynhyrchu cyfoeth cymunedol ar lefel leol a phrif fuddsoddiad economaidd â rhagolwg cenedlaethol a rhyngwladol.”

Dywedodd Mr Ritchie fod tîm Cynllun Cyfarthfa’n edrych ymlaen at ‘adeiladu ar wedd gadarnhaol charrette y Crucible neu’r Pair a chydweithio â phobl Merthyr Tudful i ddatgelu straeon cyffrous, naws gwaelodol diwylliant lleol a’i hanes peirianneg cryf, ac ecsbloetio’i dopograffeg unigryw drwy ochrgamu i ffwrdd o feddwl yn gonfensiynol.

“Â hwythau’n llawn brwdfrydedd gan uchelgais y prosiect hwn a’r hyn y bydd yn ei olygu i ddyfodol Merthyr Tudful, mae’r tîm yn edrych ymlaen at gyfrannu at a chefnogi’r uchelgais hon dros y flwyddyn a ddaw.”

Dywedodd Carole-Anne Davies, Prif Weithredwr Comisiwn Dylunio Cymru: “Mae hwn yn gam pellach tuag at wireddu uchelgais wrth uno amcanestyniad cyfoes o Ferthyr Tudful ochr yn ochr â’i phwysigrwydd hanesyddol. Mae ansawdd y tîm hwn yn addo canlyniad cyffrous iawn a fydd o fudd i’r dref a’r rhanbarth yn ogystal â Chymru gyfan.”

Yn 2017, gwnaeth y Cyngor gynnal ‘charrette’ – ‘ymarfer gweledigaethol’ sy’n dod â’r canlynol ynghyd: penseiri, cynllunwyr, arbenigwyr amgueddfa a threftadaeth a grwpiau cymunedol i edrych ar botensial Cyfarthfa. Canlyniad hyn oedd adroddiad a gafodd ei gyhoeddi gan Gomisiwn Dylunio Cymru, The Crucible/ Y Pair, yn galw am fuddsoddiad o £50m, o leiaf, dros y degawd nesaf i ddatblygu’r ganolfan ddehongli.

Ers hynny mae’r Cyngor wedi sefydlu gweithgor, ac un o’i nodau yw sefydlu sefydliad elusennol i ddatblygu’r cynlluniau ac ymgysylltu ag arianwyr arfaethedig – sef prif ymddiriedolaethau a sefydliadau’r DU.

Cafodd cyfanswm o £1.3m ei sicrhau eisoes drwy raglen gyfalaf y Cyngor rhwng 2018/19 a 2021/22 i’w ddefnyddio fel arian cyfatebol yn erbyn unrhyw geisiadau.

Ymhlith tîm cyflawn Cynllun Cyfarthfa mae: Ian Ritchie Architects; Gustafson Porter + Bowman penseiri tirlun; ymgynghorwyr cyrchfan arbenigol Fourth Street, ymgynghorwyr cost Equals Consulting; ymgynghorwyr peirianneg, trafnidiaeth ac ecoleg Arup; arbenigwyr prosiect treftadaeth Julia Holberry Associates, a storïwyr proffesiynol TheWholeStory.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni