Ar-lein, Mae'n arbed amser

Y genhedlaeth iau yn ganolog i ‘Gynllun Cyfarthfa’ Merthyr Tudful

  • Categorïau : Press Release
  • 13 Maw 2020
Cyfarthfa Plan meetings

Rhaid i’r genhedlaeth iau fod yn ganolbwynt i’r cynlluniau i er mwyn llwyddo i drawsffurfio Ardal Treftadaeth Cyfarthfa Merthyr Tudful.

Dyma’r neges gan dîm o ymgynghorwyr sy’n gweithio ar ddatblygu’r cynllun 25 mlynedd o hyd er mwyn trawsffurfio asedau hanesyddol helaeth Merthyr Tudful a hynny yn dilyn bron i 60 o gyfarfodydd ymgynghorol a gweithdai yn y fwrdeistref sirol.

Yn ystod pum mis cyntaf y broses a fydd yn 12 mis o hyd ac a fydd yn datblygu’r cynllun, cafodd cyfarfodydd a gweithdai creadigol eu cynnal â disgyblion ac athrawon cynradd ac uwchradd, myfyrwyr a darlithwyr coleg, grwpiau cymunedol, swyddogion y Cyngor Bwrdeistref Sirol, swyddogion Llywodraeth Cymru a’r sefydliad cadwriaethol, CADW.

“Rydym wedi siarad â thrawstoriad eang o grwpiau, sefydliadau ac aelodau o’r cyhoedd,” meddai Jonathan Shaw, Arweinydd y Prosiect o Benseiri Ian Ritchie (iRAL). “Mae parodrwydd pawb i ymgysylltu â ni wedi bod yn eithriadol.

“Rydym wedi cael trafodaethau gonest ac agored â chyfranogwyr ynghylch Cyfarthfa, Merthyr Tudful, ei hanes, amgylchedd, diwylliant a dyfodol y dref. Mae balchder mawr yn y dref, anwyldeb tuag at ei hanes a brwdfrydedd i esgor ar newid. Ni allem fod wedi dymuno gwell deilliant.”

Dywedodd Mr Shaw ei fod yn brosiect hir dymor a bod “rhaid i leisiau, gweithredoedd a chyfranogiad y genhedlaeth iau fod yn rhan o’i ffurfio.”

Ychwanegodd: “Mae gan genedlaethau’r dyfodol ran fawr yn sicrhau eu bod yn creu effaith arwyddocaol a dychmygus, nid yn unig yn y ffordd y gall hanes a diwylliant y dref gael eu dehongli ond hefyd wrth ddiogelu a gwella’r amgylchedd naturiol a sicrhau amrywiaeth greadigol.

“Er mai ond treian o’r ffordd yr ydym drwy’r gwaith, gallwn weld yn barod y cyfleoedd a’r profiadau newydd a ddaw yn sgil gwell posibiliadau addysgol ac economi newydd. Mae’n rhaid i’r Cynllun hwn edrych tuag at y dyfodol - nid yw cydnabod y gorffennol yn ddigon."

Dywedodd Mr Shaw ei fod yn hanfodol fod pobl leol yn derbyn ymdeimlad o berchnogaeth dros y prosiect. “Dylai’r cynllun ddod o’r bobl sy’n byw, gweithio ac sy’n chwarae ym Merthyr.”

Dywedodd y Cynghorydd Geraint Thomas, Aelod o’r Cabinet ar gyfer Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd fod cyfoeth asedau diwylliannol Merthyr Tudful yn cynnwys 223 o adeiladau rhestredig. Mae un ohonynt, sef Castell Cyfarthfa yn perthyn i gategori Gradd 1 ac ‘o ddiddordeb cenedlaethol, eithriadol,’ 12 ohonynt yn perthyn i gategori Gradd 2 a 48 ohonynt yn Henebion Cofrestredig.

Dywedodd i benseiri Ian Ritchie gael eu dewis gan y Cyngor a hynny ar y cyd â Chomisiwn Dylunio Cymru i arwain y tîm i ddatblygu Cynllun Cyfarthfa. Nid yn unig yw hyn yn cynnwys Castell Cyfarthfa a’i barc 190 erw ond hefyd yr ardal sydd i’r gorllewin o afon Taf sy’n cynnwys ffwrneisi hanesyddol.

“Rydym wrth ein boddau fod y tîm wedi mynd allan i’r gymuned er mwyn casglu atgofion trigolion a’u teimladau ynghylch dyfodol Merthyr Tudful a bod y broses wedi bod mor llwyddiannus,” ychwanegodd.

“Cytunwn fod angen i’r genhedlaeth iau chwarae rôl arweiniol yn y Cynllun - wedi’r cyfan, nhw fydd yn manteisio ohono a gobeithio y byddan nhw’n warcheidwaid y cyfleoedd a ddaw yn ei sgil.”

Bydd ymgynghoriadau pellach ag ysgolion, colegau ac â’r cyhoedd yn cael eu cynnal cyn y bydd y cynllun yn cael ei gyflawni ym mis Medi.

• Bydd y tim yn darparu diweddariad ar yr ymchwil a’r deilliannau yn ystod cam cyntaf datblygiad y Cynllun. Bydd y gweithdy’n gyfle i awgrymu syniadau ar gyfer digwyddiadau, rhaglenni a phrosiectau ar gyfer y Cynllun.

Bydd y gweithdy hwn yn cael ei gynnal yn Amgueddfa Castell Cyfarthfa Ddydd Mercher 25 Mawrth rhwng 6pm a 8pm. Sicrhewch eich bod yno erbyn 5:45pm er mwyn i ni ddechrau am 6pm.

Ar gyfer grwpiau cymunedol, ni ddylai mwy na dau gynrychiolydd fod yn bresennol a hynny er mwyn sicrhau fod lle i bawb.

Maer nifer cyfyngedig o leoedd - y cyntaf i’r felin er mwyn sicrhau eich lle. Cysylltwch â CyfarthfaPlan@merthyr.gov.uk.
Gallwch ofyn i'r Cyngor ddarparu cyfieithiad ar y pryd yn y digwyddiad trwy gysylltu â CyfarthfaPlan@merthyr.gov.uk, neu ffoniwch 01685 727491 hyd at 48 awr cyn iddo ddechrau.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni