Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cyllid Amgen ar Gyfer y Cynllun Cymorth Biliau Ynni (EBSSAF) a Chyllid Amgen ar Gyfer Taliadau Tanwydd Amgen (AFPAF)
Mae’r cynllun hwn bellach wedi cau
Cyllid Amgen ar Gyfer y Cynllun Cymorth Biliau Ynni (EBSSAF)
Taliad un-tro o £400 yw’r Cyllid Amgen ar Gyfer y Cynllun Cymorth Biliau Ynni, sy’n cael ei roi i gartrefi cymwys nad oedd wedi derbyn y prif daliad Cynllun Cymorth Biliau Ynni’n awtomatig i’w helpu gyda’u biliau ynni rhwng y 1af o Hydref 2022 a’r 31ain o Fawrth 2023, ond sy’n dal i wynebau cynnydd i’w biliau ynni. Nid yw'r taliad yn ad-daladwy.
Er mwyn gwneud cais i’r gronfa Cyllid Amgen ar gyfer Y Cynllun Cymorth Biliau Ynni (EBSSAF yn Saesneg) ewch i’r wefan ganlynol:
https://www.gov.uk/apply-energy-bill-support-if-not-automatic
Cyllid Amgen ar Gyfer Taliadau Tanwydd Amgen (AFPAF)
Y taliad tanwydd amgen cyllid amgen yw taliad un tro nad yw’n ad-daladwy o £200 I aelwydydd cymwys sy’n defnyddio tanwyddau amgen fel olew, lpg,biomas ac ati.
Er mwyn gwneud cais i’r gronfa Cyllid Amgen ar Gyfer Taliadau Tanwydd Amgen (AFPAF yn Saesneg) ewch i’r wefan ganlynol:
https://www.gov.uk/get-help-energy-bills/alternative-fuels
Ni fydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn gweinyddu ceisiadau ar gyfer y cynlluniau hyn ac ni ddylech gysylltu â’r Cyngor am gyfarwyddyd ynghylch cymhwystra.
Gellir dod o hyd i wybodaeth yn ogystal â’r ffurflenni cais ar wefan y llywodraeth www.gov.uk. Mae modd ffonio am gymorth rhwng 8am a 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener 0808 175 3287
Bydd Cyngor Bwrdeistref Merthyr Tudful yn gofalu am daliadau’r ddau gynllun unwaith i ni dderbyn cadarnhad ynghylch pa gartrefi sy’n gymwys.