Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cynllun Cefnogaeth Taliadau’r Gaeaf

Ceisiadau i’r cynllun bellach wedi dod i ben - bydd unrhyw geisiadau sy’n gymwys am daliad yn cael eu talu erbyn 31 Mawrth 2023.

Mae’r cynllun yn galluogi cartrefi cymwys i dderbyn taliad un tro o £200 at dalu costau talu am danwydd. Mae’r taliad ar ben yr ad daliad Ynni a gynigir gan Lywodraeth y DU a’r Taliad Gaeaf a wneir yn arferol i bensiynwyr.

Bydd y taliad ar gael i bob cartref cymwys  ( un taliad i bob cartref i’r person sy’n gyfrifol am dalu’r biliau) sut bynnag maent yn talu am eu tanwydd, er enghraifft, mesurydd talu o flaen llaw, debyd uniongyrchol neu dalu yn chwarterol a gellir ei hawlio sut bynnag maent yn talu am danwydd.

Cymhwyso

Gellir gwneud taliad os yw’r cais yn cwrdd â phob un o’r pedwar amod isod.

Amod gwneud Cais

Mae’r cais yn gymwys os yw cais yn cael ei gyflwyno rhwng Medi 26ain 2022 a dydd Mawrth Chwefror 28ain 2023.

Amod Hawl Budd dal

Mae angen i’r ymgeisydd, neu bartner fod yn derbyn un o’r budd daliadau cymwys isod rhwng   Medi 1 2022 ac Ionawr 31 2023:

  • Gostyngiad Treth Cyngor (GTC) (Nodwch nad yw hwn yn cynnwys y gostyngiad person sengl na gostyngiadau ac eithriadau eraill- Mae Rhyddhad Treth Cyngor yn fudd dal prawf modd).
  • Cymorth Incwm
  • Lwfans Chwilio am Waith yn seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cefnogaeth a Chwilio am Waith yn seiliedig ar Incwm
  • Credyd Cyffredinol
  • Credyd Treth Waith
  • Credyd Treth Plant
  • Credyd Pensiwn
  • Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP)
  • Lwfans Byw Anabledd (DLA)
  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Gofalwr
  • Lwfans Cyfraniad Chwilio am Waith
  • Lwfans Cefnogaeth a Chyfraniad Chwilio am Waith
  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
  • Lwfans Gweini Parhaol
  • Ychwanegiad Symudedd Pensiwn Rhyfel

Os yw preswylydd (neu bartner) sydd ddim yn gymwys am fudd dal gellir eu hystyried yn gymwys i daliad os oes person sy’n gymwys yn byw gyda nhw.

Ystyrir person yn gymwys os ydynt yn:

  •  Byw yn yr eiddo; ac
  • Yn blentyn dibynnol neu yn oedolyn arall sy’n byw yn yr eiddo (neu bartner);ac,
  • Yn derbyn un o’r budd daliadau canlynol rhwng Medi 1 2022 ac Ionawr 31 2023:

 

  • Lwfans Gweini
  • Taliad Annibyniaeth Bersonol
  • Lwfans Byw Anabledd
  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
  • Lwfans Gweini Parhaol
  • Ychwanegiad Symudedd Pensiwn Rhyfel

Mae hyn yn adlewyrchiad o’r costau tanwydd cymharol uwch y mae cartrefi gyda pherson anabl yn byw, gan gydnabod bod Lwfans |Byw anabledd yn cael ei ddyfarnu i blentyn anabl o dan 16 oed ( sy’n methu bod yn breswylydd).

Amod Atebolrwydd Tanwydd

Mae cais yn cwrdd â’r amod hon (neu bartner) os ydynt yn atebol am dalu Treth Cyngor gan fod hyn yn cael ei ystyried yn atebol am dalu biliau ynni.

Gall ymgeiswyr sydd ddim yn gyfrifol am dalu Treth Cyngor ddangos ei bod yn gymwys trwy ddangos tystiolaeth eu bod yn talu costau ynni eu heiddo. Mae hyn sut bynnag maent yn talu am eu tanwydd, er enghraifft, mesurydd talu o flaen llaw, debyd uniongyrchol neu dalu yn chwartreol a gellir ei hawlio sut bynnag maent yn talu am danwydd.

Gellir gwneud cais am dalu costau ynni eiddo yng Nghymru yn unig a  ble ystyrir yr eiddo fel prif gartref.

Amod Taliad

Ni ellir ond derbyn un taliad am y cynllun. Mae cais yn gymwys os nad ydynt (neu bartner) eisoes wedi derbyn taliad dan Gynllun Cefnogaeth Ynni Llywodraeth Cymru 2022/2023. 

Apelio

Nid oes hawl apelio yn erbyn penderfyniad i beidio rhoi taliad achos dim ond pan fo meini prawf yn cael eu cwrdd y cynigir taliad. Os nad ydych yn hapus gyda phenderfyniad, gallwch ofyn i ni edrych ar eich cais eto gyda thystiolaeth i gefnogi’ch cais.

Gwybodaeth wrth wneud Cais.

Wrth wneud cais bydd gofyn am:

  • Eich enw
  • Eich cyfeiriad
  • Eich cyfeiriad e-bost
  • Os ydych yn derbyn Gostyngiad Treth Cyngor ac os yn bosib, eich cyfeirnod sy’n cychwyn gyda 8)
  • Yr incwm rydych yn ei dderbyn
  • Manylion eich cyfrif banc er mwyn gwneud taliad (nodwch rhaid gwneud taliad i gyfrif banc ac na ellir gwneud taliad i gyfrif Cerdyn Swyddfa Bost neu Gymdeithas Adeiladu)

Byddwch yn derbyn ateb e-bost awtomatig i gadarnhau bod eich cais wedi ei derbyn.

Bydd taliadau yn cael eu gwneud o fis Hydref gyda phob taliad wedi eu cwblhau erbyn Mawrth 31ain 2023.

Pan fydd eich cais wedi ei chymeradwyo byddwch yn derbyn e-bost yn nodi y bydd taliad yn cael ei gwneud.

Peidiwch a chysylltu i ofyn pryd y bydd taliad yn cael ei gwneud gan y bydd hyn yn oedi y broses gais.

Nodwch os ydych yn derbyn gostyngiad Treth Cyngor a derbyn taliad gan y Cynllun Costau Byw neu’r Cynllun Gofalwyr Di Dal mae gennym hawl i ddefnyddio data a gasglwyd o’r cynlluniau hyn i wneud taliad. Os ydym yn gwneud hyn byddwn yn cysylltu i ddweud bod taliad yn cael ei wneud yn awtomatig. Ni fydd angen i chi wneud cais.

Os ydych yn dal yn wynebu anhawster ariannol gallwch wneud cais i’r Gronfa Gefnogaeth ddewisol (CGDd) Cronfa Cymorth Dewisol (DAF) | LLYW.CYMRU

Cynllun cymorth tanwydd Cymru: hysbysiad preifatrwydd | LLYW.CYMRU