Ar-lein, Mae'n arbed amser

Blwch Ailgylchu Du

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i ofyn am Flwch Ailgychu Du.

Blychau ailgylchu – Cesglir bob wythnos

Bydd gan bob cartref dri blwch ailgylchu, un ar gyfer papur, un ar gyfer poteli gwydr a jariau gwydr ac un ar gyfer cardfwrdd. NODER: o 5 Ebrill 2021, rhaid cadw cardfwrdd a gwydr ar wahân a’u gosod allan i’w casglu mewn blychau ar wahân.

Mae pob blwch ailgylchu newydd yn ddu, ond mae’n bosibl y bydd rhai preswylwyr yn parhau i ddefnyddio eu blychau ailgylchu gwyrdd, byddwn yn parhau i’w casglu.

Blwch Ailgylchu 1 – papur

OS GWELWCH YN DDA!!

  • Papur newydd a chylchgronau
  • Cyfeirlyfr ffȏn
  • Catalogau
  • Post sothach (gan gynnwys amlenni)

DIM DIOLCH!

  • Papur wal *
  • Papur lapio *
  • Papur sidan*
  • Tywelion papur*
  • Papur cegin*

Blwch Ailgylchu 2 – Cardfwrdd

OS GWELWCH YN DDA!!

  • Blychau cardfwrdd wedi eu gwasgu’n wastad (rhaid eu torri’n ddarnau bach sy’n ffitio i’r Blwch Ailgylchu)
  • Pecynnu cardfwrdd
  • Cartonau bwyd a diod  (Tetra Paks)

DIM DIOLCH!

  • Cardfwrdd sydd yn frwnt gan fwyd *

Blwch Ailgylchu 3 – Gwydr

OS GWELWCH YN DDA!!

  • Poteli a jariau gwydr

DIM DIOLCH!

  • Ceramig, gwydrau yfed a pyrex**
  • Chwareli gwydr **
  • Bylbiau golau **
  • Gwydr wedi torri  **
  • Cardfwrdd sy’n frwnt gan fwyd *

* Defnyddiwch eich bin olwynion

** Cymerwch ag e i’ch Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref

Caead y Blwch Ailgylchu

Nid ydym yn darparu caead caled i’ch Blychau Ailgylchu mwyach, ond rydym yn cynnig caead sydd fel cap cawod. Dylid clymu’r rhain at ddolen eich Blwch Ailgylchu gyda’r llinynnau sydd arnyn nhw.

Caiff Eitemau Trydanol a Thecstilau eu casglu bellach

Gallwch nawr ailgylchu offer trydanol bach, drwy eu gosod mewn bag clir wrth ochr neu ar ben eich blwch ailgylchu. Gallwn dderbyn eitemau fel tegell, tostiwr, haearn smwddio ac offer cegin bach arall, offer gwallt bach, consolau bach gemau a DVD a rheolwyr pell. Ni allwn dderbyn eitemau mawr fel teledu, oergell, peiriant golchi dillad a chyfrifiaduron desg mawr. (Gallwch fynd â’r rhain i’ch  Canolfan Ailgylchu a Gwastraff y Cartref Dowlais/Aberfan neu gallwch ofyn am  gasgliad swmpus)

Gallwch rhoi hen ddillad a thecstilau allan i’w hailgylchu bellach ar yr un dydd â’ch ailgylchu. Gosodwch y dillad glân, sych, tecstilau ac esgidiau mewn bag neu fag gwyn wrth ochr eich blychau ailgylchu eraill.

PEIDIWCH â defnyddio sachau du na sachau elusen achos ni fyddwn yn gallu eu casglu.

Gallwn gasglu eich hen ddillad, esgidiau (mewn parau), bagiau a gwregysau a llenni. Ni allwn gasglu unrhyw garpedi, duvets, clustogau, gobennydd na sachau cysgu.