Ar-lein, Mae'n arbed amser

Chwilio Hanes Teulu

Hanes Genedigaethau a Phriodasau Teulu

Mae olrhain hanes eich teulu yn gyffrous a gwerth chweil, ond gall fod yn cymryd llawer o amser ac yn gymhleth.

Y cam cyntaf yw casglu’r holl wybodaeth y gallwch gan berthnasau. Unrhyw ddogfennau fel ewyllysiau, tystysgrifau geni, marwolaeth a phriodas, Beiblau teulu a thoriadau papur newydd. Lluniwch goeden deulu sylfaenol i roi syniad o’r bylchau fydd yn rhaid i chi ei lenwi. Yna gweithiwch yn ôl gan ddefnyddio gwybodaeth sydd eisoes yn hysbys am berthnasau.

Dechreuodd cofrestru sifil genedigaethau, marwolaethau a phriodasau ar 1 Gorffennaf, 1837.

Noder nad ydym yn cadw cofnodion o ysgariadau.

Yr wybodaeth lleiaf sydd yn ofynnol i ddechrau olrhain unrhyw gofnod yw y rhanbarth cofrestru, y flwyddyn ac enw. Fodd bynnag, po fwyaf o wybodaeth a roddwch po uchaf y siawns ein bod ni’n dod o hyd i’r cofnod.

Cofnodion marwolaeth

Mae Cofnodion Marwolaeth yn cael eu cadw gan Gofrestryddion. Er mwyn cynnal chwiliad cysylltwch â’r Cofrestryddion ar 01685 727333 neu e-bostiwch registrars@merthyr.gov.uk

Cofnodion claddu

Mae pob cofnod claddedigaeth ym Merthyr Tudful yn cael eu cadw yn Swyddfa’r Adran Brofedigaeth, Uned 20, Parc Diwydiannol Merthyr Tudful, Pentrebach, CF48 4DR. Mae’r cofnodion cynharaf yn dyddio nol i ganol yr 1800au.

Y manylion sydd ar gael ar y cofrestri yw a ganlyn:

  • Enw’r person a gladdwyd
  • Oedran
  • Gwaith
  • Cyfeiriad
  • Ble bu farw
  • Dyddiad y claddu

Gallwch Hel Achau os yw’r manylion perthnasol gennych h.y. amcan ddyddiad y farwolaeth, enw llawn yr ymadawedig, cyfeiriad yr ymadawedig. E-bostiwch y manylion hyn at Bereavement.Services@merthyr.gov.uk a bydd aelod o’r tim yn chwilio ac yn ymateb. Neu gallwch ffonio 01685 725270. Os ydych yn gallu ymweld a’r swyddfa gallwch gael mynediad at y cofnodion am ddim.

Edrychwch ar dudalen ffioedd y Mynwentydd am y ffioedd chwilio presennol.

Pryd y gellir gwneud chwiliad?

Gall unrhyw un chwilio yn bersonol gydag apwyntiad yn ystod oriau gwaith dydd Llun i ddydd Gwener – e-bostiwch Bereavement.Services@merthyr.gov.uk neu ffoniwch 01685 725270 i drefnu apwyntiad.

Gall gwybodaeth bellach sy’n gysylltiedig gyda hel achau megis ysgrifau coffa/ adroddiadau angladdau a fyddai wedi ymddangos yn y Merthyr Express gael eu canfod yn Llyfrgell Ganolog Merthyr Tudful.

Mae’r cofrestri yn mynd yn ol cyn belled a:

  • Pant 1860
  • Cefn 1859
  • Ffrwd 1901
  • Pontycapel 1982
  • Capel Fach 1994
  • Aberfan 1876
  • Bryntaf 1915
  • Beechgrove 1888
  • Graigfargoed 1924

Cysylltwch â Ni