Ar-lein, Mae'n arbed amser
LLinell Gymorth y Gwasanaeth Seicoleg Addysg
Mae'r Gwasanaeth Seicoleg Addysg yn RhCT eisiau parhau i gefnogi teuluoedd yn ystod y cyfnod heriol yma.
Byddwn ni ar gael i gynnig cyngor i helpu rhieni i fodloni anghenion dysgu a llesiant eu plant. Rydyn ni'n cydnabod bod cau'r ysgolion yn heriol i nifer, ac mae'r pryderon ynghylch y Coronafeirws yn debygol o gynyddu gorbryder plant a'u teuluoedd.
Rydyn ni wedi sefydlu 'Llinell Gymorth Gwasanaeth Seicoleg Addysg' i gynnig cymorth a chanllawiau i rieni.
Er mwyn cael cymorth, e-bost aton ni: EPS@rctcbc.gov.uk gyda rhif ffôn a chrynodeb byr o'r cyngor sydd ei angen. Byddwn ni yna'n trefnu ffonio ar adeg sy'n gyfleus.
Mae modd i ni helpu gyda materion sy’n cynnwys:
- Ffyrdd o gefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol tra bod yr ysgolion ar gau
- Ffyrdd o gefnogi iechyd meddwl a lles plant tra bod yr ysgolion ar gau
Mae modd i ni hefyd gyfeirio rhieni at wasanaethau eraill os yw'n berthnasol.