Premiymau’r Dreth Gyngor
Yn unol ag adran 12a a 12b, Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, fel sydd wedi eu mewnosod yn Adran 139, Deddf Tai (Cymru) 2014, mae’r Cyngor wedi pennu y dylid codi premiymau’r Dreth Gyngor fel y manylir isod:
Premiwm – eiddo gwag, hirdymor
Os yw’r annedd yn wag ac nad yw’n cynnwys dodrefn bydd wedi’i eithrio am y 6 mis cyntaf o’r dyddiad yr oedd y tŷ heb ei ddodrefnu. Wedi i’r cyfnod hwn ddod i ben, ni fydd gostyngiad yn cael ei ganiatáu a bydd taliad llawn y Dreth Gyngor yn daladwy.
Os bydd yn parhau i fod yn wag am 6 mis pellach (12 mis o’r dyddiad yr oedd yn wag,) mae Adran 12A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 yn rhoi darpariaeth ddisgresiynol i gynghorau godi “premiwm” o hyd at 300% ar eiddo gwag, hirdymor.
Yng Nghyfarfod Llawn y Cyngor ar 8 Mawrth 2023, pennwyd y dylid codi premiwm o 100% o’r Dreth Gyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/2024.
Premiwm – Eiddo sydd yn wag, yn achlysurol
Diffinnir ail gartref fel annedd sydd wedi'i ddodrefnu'n llawn ac nad yw'n unig breswylfa nac yn brif breswylfa'r perchennog. Cyfeirir ato mewn deddfwriaeth fel annedd a ddefnyddir yn achlysurol.
Polisi cyfredol Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yw peidio dyfarnu unrhyw ostyngiadau i berchnogion ail dai. Ar hyn o bryd, mar perchnogion ail dai yn gymwys ar gyfer 100% o’r Dreth. Gyngor (h.y. y gyfradd sylfaenol) a bydd hyn yn parhau hyd at 31 Mawrth 2024.
Yng Nghyfarfod Llawn y Cyngor ar 8 Mawrth 2023, pennwyd y dylid codi premiwm o 100% o’r Dreth Gyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/2024.
Ar 2 Mawrth 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganlyniadau ymgynghoriad ar drethi lleol ar gyfer ail dai a llety hunan-arlwyol. O ran uchafswm y lefel y gall awdurdodau lleol osod premiymau y dreth gyngor ar ail gartrefu ac anheddau gwag, hir dymor, cyflwynwyd deddfwriaeth newydd a ddaeth i rym o 1 Ebrill 2023, yn caniatau i’r premiymau godi hyd at 300%. Gellir gweld y manylion llaw a chanlyniadau’r ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig Llywodraeth Cymru ar https://gov.wales/written-statement-summary-responses-consultation-local-taxes-second-homes-and-self-catering