Ar-lein, Mae'n arbed amser

Benthyciadau Gwella Cartref

Mae’r cynllun hwn a gaiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru’n darparu benthyciad di-log o £1000 i £35,000 am bob uned i ddeiliaid-berchnogion, landlordiaid a buddsoddwyr i gynorthwyo â chostau atgyweirio ac ailwampio.

Mae gwaith a ganiateir yn cynnwys:

  • Unrhyw waith sy’n gwneud eiddo preswyl yn saff, yn gynnes a/neu’n ddiogel, gallai enghreifftiau gynnwys uwchraddio boiler/system gwres canolog, ffenestri newydd neu gwrs gwrthleithder
  • Trosi eiddo masnachol (neu arall) yn annedd domestig

Cymhwysedd:

  • Rhaid i ymgeisydd/ymgeiswyr fod dros 18 + oed
  • Rhaid i bob perchennog eiddo sy’n amodol ar Waith – fod yn ymgeisydd
  • Rhaid i ymgeiswyr lwyddo mewn asesiad fforddiadwyedd (ble y caiff Gwybodaeth Cyfradd Credyd a ffactorau eraill eu defnyddio)
Manylion Cyswllt

Am ragor o wybodaeth cysylltwch

Swyddog Rhaglen Benthyciadau
Email: alison.reddy@merthyr.gov.uk
Telephone: 01685 725000