Ar-lein, Mae'n arbed amser

Troi allan anghyfreithlon ac aflonyddu

Mae landlordiaid preifat weithiau’n rhoi pwysau mawr ar denantiaid i adael eu tai, neu ddefnyddio grym corfforol hyd yn oed. Fodd bynnag, mae gan y mwyafrif o feddianwyr preswyl hawliau cyfreithiol i’w diogelu nhw rhag aflonyddu a throi allan anghyfreithlon – mae’r gyfraith yn dweud y gallan nhw barhau i fyw yno.

Mewn argyfwng, er enghraifft petaech chi wedi cael eich cloi allan, cysylltwch â ni trwy un o’r dulliau a restrir isod. Mae swyddog ar gael fel arfer a all roi cyngor ichi a siarad gyda’ch landlord i geisio datrys y sefyllfa. Os nad ydyn nhw ar gael i helpu ar unwaith neu os bu bygythiad o drais, dylech alw’r heddlu’n ogystal.

Ym Merthyr ychydig iawn o achosion o aflonyddu sy’n cael eu hadrodd inni ac maen nhw fel arfer yn cael eu datrys yn gyflym a’r tenant yn cael caniatâd i ddychwelyd i’w cartref.

Beth yw Troi Allan Anghyfreithlon?

Troi allan anghyfreithlon yw lle bo rhywun yn anghyfreithlon yn amddifadu neu geisio amddifadu meddiannydd preswyl (boed yn denant neu drwyddedai) o’i feddiant ef neu hi o’r cyfan neu ran o’u cartref neu safle heb fynd trwy weithdrefnau cyfreithiol cywir. Gallai unrhyw un a geir yn euog o aflonyddu neu droi allan yn anghyfreithlon wynebu dedfryd o garchar o hyd at ddwy flynedd a/neu ddirwy ddi-uchafswm.

Fel arfer rhaid i landlord sy’n awyddus i’r tenant symud allan o’i eiddo ef neu hi gyflwyno Rhybudd i Adael ar y tenant yn rhoi iddyn nhw gyfnod penodol o amser i adael. Os na ellir cyrraedd cytundeb ar ddyddiad i adael, yna rhaid i’r landlord gael Gorchymyn Llys er mwyn ailfeddiannu eu heiddio’n gyfreithlon.

Nid yw’n gwneud gwahaniaeth os yw’r tenant wedi torri eu contract ee mae rhent yn ddyledus ganddyn nhw, neu nad ydyn nhw’n gadael i’r landlord wneud atgyweiriadau, neu bod y tymor sefydlog wedi dod i ben.

Mae gweithredoedd o droi allan anghyfreithlon yn cynnwys:

  • Newid y cloeau pan fyddwch chi allan
  • Cael eich taflu allan yn gorfforol o’ch cartref neu ran ohono
  • Cael eich rhwystro’n gorfforol rhag mynd i mewn i’ch cartref

Beth yw Aflonyddu?

Y diffiniad cyfreithiol o aflonyddu yw pan fo landlord neu asiant landlord yn: 

  • Cyflawni gweithredoedd sy’n debygol o ymyrryd â heddwch a chysur meddiannydd
  • Rhwystro’r meddiannydd rhag cael gwasanaethau angenrheidiol (mae gwasanaethau angenrheidiol yn cynnwys dŵr, nwy a thrydan, neu lifftiau mewn bloc o fflatiau)

Mae’n drosedd i landlord gyflawni’r gweithredoedd uchod os yw’n achosi i’r meddiannydd adael neu’n eu rhwystro nhw rhag manteisio ar eu hawliau i’r eiddo.

Gall aflonyddu ddigwydd mewn sawl gwahanol ffordd, er enghraifft:

  • Datgysylltu gwasanaethau hanfodol, megis trydan, nwy neu ddŵr, neu fethu â thalu’r biliau fel bod y gwasanaethau hyn yn cael eu torri i ffwrdd
  • Symud eiddo’r meddiannydd oddiyno neu ymyrryd â nhw
  • Rhwystro mynediad i ystafell ymolchi, cegin neu ardd y mae gan y meddiannydd hawl ar y cyd neu hawl lwyr iddo
  • Mynd i dŷ meddiannydd heb ganiatâd
  • Gwneud bygythiadau i berswadio meddiannydd i adael
  • Ymweld â chartref y meddiannydd yn rheolaidd heb rybudd, yn enwedig yn hwyr y nos
  • Anfon adeiladwyr yno’n ddirybudd
  • Gadael i eiddo ddirywio i gyflwr mor ddrwg fel ei fod yn beryglus i’r meddianwyr fyw ynddo
  • Dechrau ar weithiau atgyweirio sy’n tarfu ar y meddiannydd, a pheidio â’u cwblhau
  • Aflonyddu meddiannydd oherwydd rhyw, hil neu rywioldeb
  • Rhwystro’r meddiannydd rhag cael gwesteion
  • Symud tenantiaid eraill i mewn yn fwriadol a’r rheini’n achosi niwsans i’r meddiannydd
  • Gorfodi meddiannydd i arwyddo cytundebau sy’n cymryd eu hawliau cyfreithiol oddi wrthynt

Beth allwch chi ei wneud

Os yw eich landlord (neu asiant) yn eich aflonyddu chi, gallwch gael help gan Dîm Diogelu Amgylcheddol a Gorfodi’r Cyngor, neu fynd â’ch landlord i’r llys. Nid oes raid i aflonyddu fod yn rhywbeth amlwg na bwriadol cyn y gallwch chi wneud rhywbeth yn ei gylch.

Os ydych chi’n teimlo’ch bod chi’n cael eich aflonyddu gan eich landlord, dyma rai o’n cynghorion ni: 

  • Gofynnwch i’ch landlord roi’r gorau i’r ymddygiad
  • Cadwch ddyddiadur, nodiadau a ffotograffau o’r hyn sy’n digwydd
  • Ewch i ganolfan gynghori, at yr heddlu, y Cyngor neu gyfreithiwr am help
  • Gofynnwch i’ch landlord roi popeth yn ysgrifenedig ichi
  • Ysgrifennwch ato ef neu hi, gan ddweud os bydd yr aflonyddu’n parhau y byddwch yn cymryd camau cyfreithiol
  • Trefnwch fod gennych rywun gyda chi fel tyst pryd bynnag y byddwch chi’n gweld eich landlord
  • Siaradwch gyda thenantiaid eraill sydd â’r un landlord 

Cysylltwch â Ni