Ar-lein, Mae'n arbed amser

Partneriaeth Gyflogadwyedd

Cydlynir y Bartneriaeth Gyflogadwyedd yn yr Adran Adfywio Cymdeithasol Oedolion a theuluoedd a’i nod yw helpu pobl leol i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n llesol i’w hiechyd a’u hannog i ddysgu er mwyn cefnogi’r agenda cyflogaeth.

Beth yw Cyflogadwyedd?

Cyflogadwyedd yw’r cyfuniad o ffactorau a phrosesau sy’n galluogi pobl i wneud cynnydd tuag at gyflogaeth, aros mewn cyflogaeth a symud ymlaen yn y gweithle.

Efallai’ch bod hefyd wedi clywed am y term bod heb waith sy’n llai cyfarwydd na chyflogadwyedd/diweithdra i ddisgrifio’r rheini nad ydynt yn actif yn economaidd. Pobl nad ydynt yn actif yn economaidd yw’r rheini o oedran gweithio nad ydynt yn gweithio, nac mewn addysg amser llawn na hyfforddiant ac nad ydynt yn chwilio am waith.

Mae llawer o bobl ddi-waith yn wynebu rhwystrau llawer mwy nag eraill o ran cael mynediad i fyd gwaith a symud ymlaen ynddo. Mae llawer y tu allan i’r farchnad lafur a gall yr achos fod yn eithaf cymhleth yn aml. Mae rhai o’r rhwystrau hyn yn cynnwys yn nodweddiadol y rhesymau canlynol y mae’n rhaid i unigolion eu gorchfygu cyn dychwelyd i’r gweithle:

  • diffyg hyder a hunan-barch
  • bylchau ar eu CV
  • profiadau gwael o waith
  • diffyg geirdaon
  • pryder uchel
  • diffyg profiad gwaith diweddar
  • diffyg stamina
  • diffyg sgiliau cyflogadwyedd craidd diweddar
  • diffyg ymwybyddiaeth o ddisgwyliadau cyflogwyr
  • stigma ynglŷn â phroblemau iechyd meddwl.

Efallai bod angen cymorth a chefnogaeth ychwanegol ar rai unigolion i elwa ar fuddion gwaith y mae llawer ohonom yn eu cymryd yn ganiataol. Gall eraill hefyd berthyn i grwpiau blaenoriaeth dynodedig i dderbyn cymorth trwy raglenni cyflogadwyedd, gan gynnwys:

  • rhieni sengl
  • pobl ag anableddau
  • pobl â phroblemau iechyd meddwl
  • pobl ddiwaith hirdymor
  • pobl ifanc sy’n gadael gofal
  • cyn-droseddwyr.

Beth sy’n digwydd yn lleol i ymdrin â chyflogadwyedd?

Deallir yn eang y gall dysgu a chyflogaeth agor y drws i ansawdd bywyd gwell. Mae’r Grŵp Llywio Cyflogadwyedd yn bartneriaeth amlasiantaeth sefydledig sydd wedi parhau i weithio ar y cyd a chyflawni ymrwymiad cadarn gan bartneriaid sy’n cefnogi pobl leol i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n llesol i’w hiechyd, yn annog dysgu ac yn cydweithio’n weithredol i gefnogi’r agenda cyflogaeth.

Dros y blynyddoedd rydym wedi ymgymryd â llawer o fentrau sydd wedi canolbwyntio ar ddatblygu partneriaethau i ddod o hyd i ddatrysiadau i faterion lleol Cyflogadwyedd, ac mae gennym ddealltwriaeth dda o’r hyn sy’n gweithio.

Wynebodd y Grŵp Llywio Cyflogadwyedd ei her fwyaf yn ddiweddar ers ei gychwyn gyda chyflwyniad Rhaglen Waith Diwygio Lles a’r newid sydd ar y gweill i Gredyd Cynhwysol a fydd yn newid yn hanfodol sut y gweinyddir cynllunio gwasanaethau.

Mae’r grŵp yn parhau i weithio ar y cyd yn wyneb yr heriau newydd hyn ac mae wedi esblygu i gynnwys dau brif gontractwr y rhaglen waith i alluogi cynllunwyr gwasanaethau allweddol i gydweithio a monitro perfformiad i gefnogi’r amgylchedd newidiol hwn.

Beth yw nod y Grŵp Llywio Cyflogadwyedd?

Prif darged y Grŵp Llywio Cyflogadwyedd yw gwella sgiliau gwaith preswylwyr (oedolion a phobl ifanc) a datblygu mecanweithiau cefnogi gwell er mwyn iddyn nhw ennill a chynnal cyflogaeth.

Pwy yw partneriaid y Grŵp Llywio Cyflogadwyedd?

Mae’r Grŵp Llywio Cyflogadwyedd yn tynnu ynghyd partneriaid o amryw adrannau a sefydliadau sy’n ymroddedig i weithio mewn partneriaeth i gyflwyno’r canlyniadau gorau i unigolion:

  • Adfywio Cymdeithasol Oedolion a Theuluoedd
  • Pontydd i Waith
  • Canolfan Byd Gwaith
  • Gyrfa Cymru
  • 14-19 Network
  • Canolfan Blant Integredig
  • Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf
  • Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol
  • Coleg Merthyr
  • Cymdeithas Dai Merthyr Tudful
  • Gwasanaethau Adfywio Cymdeithasol Ieuenctid a Theuluoedd
  • 3G’s Development Trust
  • Cymorth Aml Ymyrraeth Teuluoedd yn Gyntaf
  • Dysgu Teulu ac yn y Gymuned
  • Adran Mynediad a Chynhwysiad Ysgolion
  • Rehab/JobFit
  • Working Links
  • Adran Adfywio Economaidd
  • Tydfil Training
  • Merthyr Tydfil Institute for the Blind
  • Princes Trust
  • Learn About Us
  • National Training Federation Wales
  • Llamau
  • Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful
  • Ground Work Trust
  • Merthyr Valleys Homes
  • UHOVI
  • Want 2 Work
  • Merthyr Valley’s MIND
  • Adfywio Cymdeithasol Blaenau Gwent
  • Talk Training

Beth yw nodau allweddol y cynllun?

Nodau allweddol y cynllun yw:

  • Nod 1: Gwella’r dull cydweithredol gyda’r sector cyhoeddus, gwasanaethau’r sector preifat a’r trydydd sector i gynyddu gweithgarwch economaidd a mynd i’r afael â thlodi ym Merthyr Tudful.
  • Nod 2: Cefnogi pobl i ennill a chynnal cyflogaeth i oedolion a phobl ifanc.
  • Nod 3: Datblygu a gwella cyflogadwyedd oedolion a phobl ifanc yn arbennig o ran sgiliau, cymwysterau a pharodrwydd i weithio.
  • Nod 4: Cefnogi dull Tîm o amgylch y Busnes i leihau cystadleuaeth ddiwerth (ymgysylltiad cyflogwyr).

Sut byddwn yn mesur perfformiad?

Caiff y cynllun cyflogadwyedd ei fonitro trwy system Rheoli Perfformiad Ffynnon Llywodraeth Cymru. Bydd hyn yn helpu i hysbysu cynnydd yn y dyfodol yn erbyn targedau i fonitro cyflawniad yn effeithiol.

Am ragor o wybodaeth am waith y Grŵp Llywio Cyflogadwyedd, cysylltwch â ni â’r manylion isod.

Cysylltwch â Ni