Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cymunedau am Waith a Chymunedau am Waith a Mwy
Mae ein tîm o Fentoriaid Cyflogaeth yn darparu cymorth mentora a chyflogaeth un i un yn y gymuned, gan helpu pobl i hyfforddi ac uwchsgilio, gan eu grymuso i feithrin yr hyder a'r profiad sydd eu hangen arnynt i wneud cais am y swyddi y maent eu heisiau
Peidiwch â phoeni am feini prawf cymhwysedd, bydd ein Gweithwyr Brysbennu yn gweithio hyn i chi a bydd un o'n haelodau tîm neu bartneriaid bob amser yn gallu cynorthwyo
Mae ein prosiect yn wirfoddol ac rydym yn helpu pobl sy'n barod i weithio mewn cyflogaeth, drwy ddarparu cefnogaeth, arweiniad a hyfforddiant un i un. Mae Cymunedau i Waith a Mwy yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Sut allwn ni helpu
Cynigir cefnogaeth un-i-un, mewn lleoliad lleol yn eich cymuned, fel eich llyfrgell leol neu ganolfan gymunedol. Mae'r cymorth a ddarperir wedi'i deilwra i weddu i'ch anghenion unigol a'ch helpu i gyflawni eich nodau cyflogaeth tymor byr a hir. Rydym yn cefnogi pobl i uwchsgilio ac ennill mwy o brofiad yn eu maes dewisol, gyda'r nod o gefnogi pobl i'w rolau gwaith maent yn dymuno ei wneud.
Cymorth Cyflogaeth
- Mentora 1-i-1 i'ch cefnogi gam wrth gam i mewn i waith
- Eich helpu i greu cyfrif Credyd Cynhwysol a diweddaru'ch cofnod
- Helpu i nodi a chynllunio llwybr gyrfa o’ch dewis
- Cymorth gydag ysgrifennu CV, llythyrau cefnogi a cwblhau ceisiadau am waith
- Magu hyder a chwalu rhwystrau i waith
- Cyrsiau hyfforddi am ddim i gynyddu eich cyfleoedd cyflogaeth
- Cyfleoedd gwirfoddoli a Lleoliadau Gwaith
- Cefnogaeth gyda dod o hyd i waith cyflogedig
- Paratoi at gyfweliadau
- Cefnogaeth i ddechrau gwaith
- Help i ddod o hyd i brentisiaeth
- Cymorth ar ol derbyn gwaith
Cymorth Ychwanegol
- Cefnogaeth gyda sgiliau hanfodol (Dysgu Cymunedol Oedolion (ACL)
- Gwirio i weld os byddwch yn well eich byd
- Help gyda hyder a chymhelliant
- Cefnogaeth i unigolion ag anableddau a chyflyrau iechyd sy'n cyfyngu ar waith
- Help gyda chyfrifiaduron a mynd ar-lein
- Help gan ein Swyddogion Cyswllt Cyflogaeth i ddod o hyd i swyddi gwag â chyflogwyr lleol
- Pot bach o arian dewisol ar gael i gyfranogwyr oresgyn rhwystrau i waith, er enghraifft cymorth i ariannu costau traul/PPE a theithio
Cymorth ar gael i gyflogwyr
Os ydych chi'n gyflogwr, gall chwilio am staff gymryd llawer o amser. Rydym yn darparu cefnogaeth am ddim i gyflogwyr lleol ddod o hyd i'r ymgeiswyr cywir a thorri i lawr ar amser a chost y broses recriwtio:
- Un pwynt cyswllt i weithio'n agos gyda chi i ddod o hyd i'r ymgeiswyr cywir gyda'r sgiliau a'r hyfforddiant gofynnol, i fodloni'ch manyleb swydd
- Cefnogaeth i drefnu cyfweliadau, ystafelloedd cyfweld ar gael i'w defnyddio
- Cyfweliad cyn-sgrinio ymgeiswyr i sicrhau bod yr ymgeisydd yn addas
- Treialon gwaith ar gael
- Cymorth gwaith ar gyfer y gweithiwr a’r cyflogwr
- Darperir hyfforddiant cyn-gyflogaeth os oes angen
- Darpariaeth PPE am ddim
- Gwybodaeth a chyngor ar gyfleoedd ariannu
Cysylltu â ni
Os hoffech wybod rhagor am gymorth i chi neu i unrhyw un arall yr ydych yn eu cynorthwyo, ffoniwch ni ar 01685 727077 neu e-bostiwch C4wmailbox@merthyr.gov.uk
Os hoffech atgyfeirio’ch hun neu rywun arall yr ydych yn ei gynorthwyo, cwblhewch ein ffurflen atgyfeirio, isod: