Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gwybodaeth am Gyfleoedd Cyfartal

Cyfweliad Gwarantedig

Fel rhan o’n hymrwymiad i fod yn Ddefnyddiwr y Symbol Anabledd, bydd CBSMT yn cyfweld â phob ymgeisydd anabl sy’n bodloni gofynion swydd wag. Wrth lenwi’ch ffurflen gais, sicrhewch eich bod yn cyfateb eich sgiliau, eich profiad a’ch gallu â’r rheini a nodir ym manyleb y person.

Er mwyn asesu addasrwydd ymgeisydd am gyfweliad gwarantedig, bydd angen i chi ddatgan bod anabledd gennych a rhoi gwybod i ni unrhyw addasiadau fydd eu hangen arnoch.

Gwneud cais am swyddi yn CBSMT

Cynhyrchir rhestr o’r swyddi gwag sydd ar gael yng Nghyngor Sir Merthyr Tudful bob bythefnos mewn Bwletin Cyfleoedd Swyddi. Mae’r bwletin ar gael o’r adran Adnoddau Dynol.

Os hoffech gymorth i lenwi ffurflen gais, gall ein hymgynghorwyr recriwtio drefnu sesiwn 1:1 i drafod eich cais a llenwi’r ffurflen gyda chi os oes angen.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r tîm Recriwtio ar 01685 725413.

Mynd i gyfweliad

Os cewch eich gwahodd i gyfweliad, bydd gofyn i chi nodi unrhyw addasiadau y byddai eu hangen arnoch. Dywedwch wrthym am unrhyw anawsterau neu ofynion sydd gennych. Bydd yr awdurdod yn cynnal addasiadau rhesymol lle bo’n bosibl. Gallai’r rhain gynnwys:

  1. Trefnu trafnidiaeth i’r cyfweliad ac o’r cyfweliad
  2. Sicrhau bod yr adeilad lle bydd y cyfweliad yn cael ei gynnal yn hygyrch
  3. Trefnu cymorth, gan gynnwys dehonglwyr iaith arwyddion, siaradwyr gwefusau, gweithredwyr llais-testun neu system dolen sain

Os cewch eich gwahodd i gyfweliad cewch yr wybodaeth hon ymlaen llaw:

  • Lleoliad
  • Dyddiad ac amser a hyd bras y broses ddethol
  • Fformat y broses ddethol – h.y. a fydd profion, trafodaeth grŵp neu a fydd gofyn i chi wneud cyflwyniad
    Enw a theitlau swydd y panel cyfweld
  • Byddwch yn cael rhif ffôn, ffacs a chyfeiriad e-bost rhywun i gysylltu â nhw os oes angen rhagor o wybodaeth
Cyfweliad a Phrofion

Os cewch eich gwahodd i gyfweliad cewch wybod a fydd profion, cyflwyniadau neu drafodaeth grŵp yn ffurfio rhan o’r broses ddethol. Os oes angen unrhyw addasiadau neu gymorth arnoch ag unrhyw ran o’r broses ddethol, cysylltwch â ni i drafod sut y gallwn helpu.

Rydym yn cydnabod bod gan ymgeiswyr anabl gymaint o allu ag unrhyw un i gyflawni’r rhan fwyaf o rolau yn yr Awdurdod a’u bod yn gallu cyfrannu’n fawr at gyflawni ein hamcanion. Yn ogystal â gwerthfawrogi ymrwymiad a chyfraniad ein holl weithwyr presennol ag anableddau, rydym hefyd yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr anabl sy’n teimlo eu bod yn gallu gwneud gwahaniaeth.

Diffiniad anabledd yn ôl y Symbol Tic Dwbl yw: Gall pobl sy’n ateb y diffiniad yn y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd a phobl anabl nad ydynt yn ateb diffiniad anabledd yn y Ddeddf, oherwydd bod eu hanabledd yn effeithio arnynt yn y gwaith yn unig fanteisio ar ymrwymiadau’r symbol anabledd.

Mae’r ymrwymiad i bobl anabl yn broses barhaus ac rydym yn ei hadolygu o hyd ac mae’n cynnwys pob gweithiwr yn yr awdurdod. Os ydych yn teimlo felly y gallwch helpu i wella amodau, os oes gennych unrhyw awgrymiadau neu broblemau, cysylltwch yn ddi-oed â’r Adran AD ar (01685) 724669.

Mae cydraddoldeb yn rhan annatod o gymdeithas wâr – ac o Gyngor cadarn a llwyddiannus. Mae’r Awdurdod yn ymrwymedig i wneud ei hun yn un sy’n rhoi’r cyfle gorau posibl i bobl lwyddo yn eu rolau, eu potensial a’u bywydau, o ba bynnag cefndir.

Mae’r Awdurdod yn cydnabod y gall gweithlu amrywiol sy’n adlewyrchu trawstoriad o’r gymuned a’r boblogaeth roi min cystadleuol i’r cyngor wrth ateb gofynion gwasanaethau ystod eang o gwsmeriaid yn y cymoedd.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn ymroddedig i Gyfleoedd Cyfartal i bawb, gydag ystyriaeth bositif am oedran, lliw, tras ethnig neu genedlaethol, cenedligrwydd, iaith, hil, cred grefyddol, rhyw, statws priodasol, rhywioldeb, cyfrifoldeb am ddibynyddion, nam, gweithgarwch undebau llafur neu wleidyddol ac unrhyw grŵp arall dan anfantais.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn ymroddedig i:

Sicrhau y caiff pob ymgeisydd am gyflogaeth yn yr Awdurdod ei drin yn deg ar sail ei rinweddau, ei alluoedd, ei gymwysterau a’i addasrwydd i gael ei benodi ac nad yw gweithdrefnau penodi’n gwahaniaethu ar sail meini prawf na ellir eu cyfiawnhau yn ôl gofynion y swydd ac yn unol â pholisïau a gweithdrefnau a gyhoeddwyd.

Sicrhau y caiff pob gweithiwr yn yr Awdurdod ei hyfforddi, ei arfarnu a’i fod yn cael mynediad at brofiad gwaith perthnasol, ei ddyrchafu a’i drin fel arall ar sail ei rinweddau, ei alluoedd, ei gymwysterau a’i brofiad.

Sicrhau bod pob gweithiwr yn ymwybodol o’i gyfrifoldebau fel rheolwyr, gweithwyr a chynrychiolwyr yr Awdurdod wrth ymdrin â chydweithwyr ac asiantaethau allanol dan ddarpariaethau deddfwriaeth genedlaethol a pholisïau’r Awdurdod.

Monitro ac adolygu polisïau ac arferion cyflogaeth i sicrhau nad ydyn nhw’n gwahaniaethu’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol yn annheg yn erbyn gweithwyr unigol neu grwpiau penodol o weithwyr.

Sicrhau bod yr Awdurdod yn rhoi cyfle cyfartal i bob gweithiwr ddatblygu i’w llawn botensial; ac yn ceisio sicrhau cydraddoldeb cyfle i bawb a, cyhyd ag y bo’n ymarferol, y bydd arferion yn cydymffurfio â’r gweithdrefnau a gyhoeddwyd gan yr Awdurdod.

Hyrwyddo amgylchedd gwaith cytûn i weithwyr ar sail parchu’i gilydd lle’r anogir pob gweithiwr i nodi rhaglenni gweithredu positif i allu cyflawni’r amcanion hyn.