Ar-lein, Mae'n arbed amser
Gwybodaeth a chyngor ynghlych Gwirfoddoli
Gweithio gyda'r Sector Gwirfoddol
Mae sefydliadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol yn chwarae rhan hanfodol mewn darparu gwasanaethau ac adnoddau i gymunedau lleol. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful (CBSMT) yn ymroddedig i ddatblygu partneriaethau gwaith da gyda grwpiau gwirfoddol a chymunedol ar draws y fwrdeistref i gefnogi ac uchafu effaith gwaith y sector gwirfoddol.
Mae Compact Lleol Merthyr Tudful gyda'r Sector Gwirfoddol yn fframwaith sy'n gosod y bartneriaeth rhwng CBSMT a'r sector gwirfoddol.
Mae CBSMT yn gweithio'n agos â Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful (VAMT) ar lefel strategol a gweithredol i ddatblygu gwaith effeithiol a fydd yn cael buddion hirdymor i'r sector gwirfoddol a chymunedau yn y Fwrdeistref Sirol.
Mae Pwyllgor Cyswllt Sector Gwirfoddol Merthyr Tudful yn goruchwylio'r broses hon ac mae ganddo gyfrifoldeb penodol am gymeradwyo grantiau i sefydliadau gwirfoddol o Gronfa Datblygu Merthyr Tudful. Rheolir y berthynas â'r sector gwirfoddol gan y tîm Cyllid Allanol ac Ewropeaidd yn CBSMT.
Os oes angen rhagor o wybodaeth neu gyngor arnoch cysylltwch â ni.
Compact Lleol Merthyr Tudful gyda'r Sector Gwirfoddol
Mae'r Compact Lleol yn ddogfen fframwaith sy'n gosod sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful (CBSMT) yn cydweithio â grwpiau Gwrifoddol a Chymunedol. Fel rhan o'r Compact sefydlwyd Pwyllgor Cyswllt Merthyr Tudful rhwng CBSMT a'r Sector Gwirfoddol.
Mae'r Compact yn dangos sut y mae CBSMT a'r Sector Gwirfoddol yn ymroddedig i waith partneriaeth parhaus, nodau ac amcanion cyfrannol a chyd-ddealltwriaeth i wella ansawdd bywyd pobl y Fwrdeistref Sirol.