Ar-lein, Mae'n arbed amser
Pen Y Dre
Mae ymgynghoriadau cyhoeddus yn rhan allweddol o'r broses statudol lle rydym ni fel awdurdod yn sicrhau y caiff pawb gyfle i fynegi eu barn ar gynigion penodol.
Mae’r awdurdod lleol yn bwriadu gwneud cais am ganiatâd i adnewyddu Ysgol Uwchradd Pen Y Dre.
Bydd yn cynnwys tirlunio cysylltiedig a chyfleusterau ategol ac adeiladu ffordd fynediad newydd.
Mae gwahoddiad i chi gyflwyno sylwadau i ni’n uniongyrchol cyn cyflwyno’r cais cynllunio llawn drwy gwblhau ein harolwg ar-lein erbyn 23/02/2021.
Gellir gweld set cyflawn o’r ddogfen arfaethedig a’r cynlluniau ar-lein (gweler isod) neu trwy'r post os gofynnir am hynny.