Ar-lein, Mae'n arbed amser
Asesiad Statudol Anghenion Addysgol Arbennig
Mae asesiad statudol yn ymchwiliad manwl i ddarganfod beth yn union yw anghenion addysgol arbennig eich plentyn (AAA) a pha gymorth arbennig sydd ei angen ar eich plentyn.
Fel arfer, mae’r broses yn cymryd 26 wythnos i’w chwblhau. Yn ystod y broses hon byddwch yn derbyn sawl llythyr wrth yr Adran Anghenion Addysgol Arbennig a byddwn yn gofyn i chi lenwi a dychwelyd nifer o ffurflenni. Os, ar unrhyw bwynt yn ystod y broses o asesiad statudol, hoffech gymorth neu gefnogaeth cysylltwch gyda’ch cynrychiolydd SNAP drwy ddefnyddio’r manylion isod.
Pwy all ofyn am Asesiad Statudol?
Gallwch ofyn am asesiad statudol i’ch plentyn a gall ysgol eich plentyn ofyn am un hefyd. Os hoffai’r ysgol ofyn am asesiad dylent bob tro siarad gyda chi’n gyntaf. Gall yr awdurdod iechyd lleol hefyd ofyn am asesiad os ydyw’n teimlo’n angenrheidiol ac unwaith eto, dylent siarad gyda chi cyn gwneud hwn.
Os hoffech ofyn am asesiad statudol byddai’n syniad da i chi siarad gydag athro neu athrawes ddosbarth eich plentyn yn y lle cyntaf neu gyda Chydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig (SENCO) yr ysgol.
Bydd yr awdurdod Lleol yn ystyried cais am asesiad statudol yn ofalus, a byddwch yn cael gwybod o fewn chwe wythnos os fydd asesiad yn cael ei gynnal.
Beth sy’n digwydd wedi’r cais am Asesiad Statudol?
Mae gan yr Awdurdod Lleol chwe wythnos i benderfynu os ydynt am gynnal asesiad ai peidio. Bydd gofyn i chi lenwi a dychwelyd dwy ffurflen. Mae’n bwysig iawn bod y ffurflenni hyn yn cael eu cyflawni a’u dychwelyd atom.
Bydd y penderfyniad ynghylch pa un ai i gynnal asesiad statudol ai peidio yn ddibynnol ar yr holl wybodaeth a anfonir atom. Mae’n bwysig bod y wybodaeth sy’n cael ei ddarparu’n gywir. Bydd y dystiolaeth yn dod gennych chi a’r ysgol. Gallwch hefyd ddarparu tystiolaeth gan bobl broffesiynol eraill sy’n ymwneud â’ch plentyn.
Beth sy’n digwydd wedi Asesiad Statudol?
Mae gan yr Awdurdod lleol ddeg wythnos i gasglu’r holl wybodaeth ac i benderfynu pa un ai i gyhoeddi Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig neu i gyhoeddi Nodyn yn ei Le. Pan fyddwn wedi derbyn yr holl dystiolaeth, bydd y gwasanaeth Anghenion Addysgol Arbennig yn ystyried y dystiolaeth yn ofalus iawn cyn gwneud argymhelliad.
Os penderfynir y dylid ysgrifennu Datganiad, byddwch yn derbyn copi o’r Datganiad Arfaethedig o fewn pythefnos i’r dyddiad y gwaed y penderfyniad. Byddwch hefyd yn derbyn copi o’r dystiolaeth a gasglwyd yn ystod yr asesiad.
Os penderfynir na ddylid ysgrifennu datganiad, yna byddwn yn anfon Nodyn yn ei Le atoch. Bydd hwn yn esbonio’r rhesymau pam na wnaed Datganiad a bydd yn dweud wrthych sut y dylai’r ysgol ymateb i anghenion eich plentyn, a pha wasanaethau eraill drwy’r system ysgol, sydd ar gael i’ch plentyn.
Datganiad Anghenion Addysgol Arbennig
Mae Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig yn ddogfen gyfreithiol sy’n datgan manylion yr Anghenion Arbennig yr ystyrir sydd gan eich plentyn. Mae’r datganiad yn amlinellu’r cymorth penodol fydd ar gael er mwyn ymateb i anghenion addysgol arbennig eich plentyn.
Mae Datganiad Anghenion Addysgol Arbennig wedi ei gyflwyno mewn chwe rhan.
Rhan 1 – Cyflwyniad
Enw’r plentyn, cyfeiriad, dyddiad geni, iaith gartref y plentyn, crefydd a manylion ynghylch rhieni / gofalwyr y plentyn.
Rhan 2 – Anghenion Addysgol Arbennig
Manylion pob un o Anghenion Addysgol Arbennig eich plentyn a ddynodwyd yn ystod yr Asesiad Statudol o ganlyniad i’r cyngor a dderbyniwyd ac sydd wedi eu hatodi i’r datganiad.
Rhan 3 – Darpariaeth Addysgol Arbennig
Y Ddarpariaeth Addysgol Arbennig y mae’r Awdurdod yn ei ystyried yn angenrheidiol er mwyn ymateb i Anghenion Addysgol Arbennig eich plentyn.
Rhan 4 – Lleoliad
Y math o ysgol ac enw’r ysgol all ymateb orau i anghenion eich plentyn.
Rhan 5 – Anghenion Anaddysgol
Pob un o anghenion anaddysgol eich plentyn yn unol â’r hyn a gytunwyd rhwng y Gwasanaethau Iechyd a’r Gwasanaethau Plant.
Part 6 – Darpariaeth Anaddysgol
Manylion y ddarpariaeth anaddysgol berthnasol a fydd ar gael i’ch plentyn fel y cytunwyd rhwng y Gwasanaethau Iechyd a’r Gwasanaethau Plant.
Manylion Cyswllt
Gwasanaeth Anghenion Addysgol Ychwanegol:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Stryd y Castell
Merthyr Tudful
CF47 8AN
Rhif ffôn: 01685 724616
Y Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig (SENCO) yn ysgol/ lleoliad eich plentyn:
Partneriaeth Rhiant Lleol
SNAP Cymru
1 South Road
Ystâd Ddiwydiannol Penallta
Hengoed
CF82 7ST
Cyswllt: 01443 862166
Llinell Gymorth: 0808 8010608
SNAP Cymru, Prif Swyddfa, 10 Coopers Yard, Heol Curran, Caerdydd, CF10 5NB