Ar-lein, Mae'n arbed amser

Beth yw cynllun datblygu unigol?

Mae cynllun datblygu unigol yn cael ei greu trwy gydweithrediad y plentyn a’r rhiant/gofalwr ar y cyd ag asiantaethau eraill fel ymarferwyr iechyd neu ofal cymdeithasol.

Bydd y cynllun datblygu unigol yn nodi’r hyn y dylai’r plentyn neu’r person ifanc fod yn gallu ei ddysgu gan nodi:

  • yr hyn sydd yn bwysig iddynt;
  • disgrifiad o’u hanghenion dysgu; a
  • beth fydd yn cael ei wneud fel eu bod yn cael eu cefnogi’n gywir yn yr ysgol neu’r coleg a’r ddarpariaeth dysgu ychwanegol (DDY) sydd ei angen er mwyn diwallu eu hanghenion dysgu ychwanegol.

Bydd y cynllun hwn yn cael ei adolygu pob deuddeg mis neu’n gynt os bydd angen.

Gall CDU gael ei greu a’i gynnal gan ysgolion, colegau neu’r Awdurdod Lleol. Mae’r CDU yn ddogfen gyfreithiol ac mae eu darpariaeth yn gyfreithiol. Dros y tair blynedd nesaf, bydd cynlluniau datblygu unigol (CDU) yn hepgor pob cynllun cyfredol, gan gynnwys:    

  • Datganiadau Anghenion Addysgol Arbennig (AAA;)
  • Cynlluniau Addysgol Unigol (CAU) ar gyfer dysgwyr sydd ar hyn o bryd yn cael eu cefnogi trwy Gweithredu yn y Blynyddoedd Cynnar/Gweithredu yn yr Ysgol neu Gweithredu yn y Blynyddoedd Cynnar a Mwy/Gweithredu yn yr Ysgol a Mwy; a
  • Chynlluniau Dysgu a Sgiliau (ar gyfer dysgwyr dros 16 oed sydd yn mynychu coleg.)

Cyfrifoldeb gwneud penderfyniad yr Ysgol

Pan fydd ysgol yn ymwybodol fod gan blentyn neu berson ifanc yn yr ysgol AAY, mae’n rhaid i’r ysgol benderfynu os oes gan y plentyn neu’r person ifanc hwnnw anghenion addysgol ychwanegol, oni bai:

  • fod CDU yn ei le’n barod;
  • fod penderfyniad eisoes wedi cael ei wneud fod gan y plentyn neu’r person ifanc AAY ac nad yw ei anghenion wedi newid; neu
  • mewn achos person ifanc, nad yw’n cytuno â’r penderfyniad.

Ailystyried penderfyniadau

Gall plentyn, rhiant/rhieni, gofalwr/gofalwyr ofyn i’r awdurdod lleol ailystyried penderfyniad yr ysgol ynghylch AAY y plentyn/person ifanc.

Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol benderfynu os oes gan y plentyn neu’r person ifanc AAY ai peidio. Pan fydd hyn digwydd, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu’r ysgol o’r cais a gofyn am ragor o wybodaeth ganddynt. Gall yr awdurdod lleol gytuno neu anghytuno â phenderfyniad yr ysgol. Os na fydd awdurdod lleol yn cynnal penderfyniad yr ysgol, gall gyfarwyddo’r ysgol i ysgrifennu CDU.

Os bydd plentyn neu riant/gofalwr neu berson ifanc yn anhapus â’r CDU, gallant wneud cais i’r awdurdod lleol ailystyried y cynllun. Gall yr awdurdod lleol adolygu’r cynllun, gofyn i’r ysgol adolygu’r cynllun neu gadarnhau fod y cynllun yn addas.

Pan fydd cynllun yn cael ei gynnal gan yr ysgol, gall plentyn, rhiant/gofalwyr y person ifanc wneud cais fod yr awdurdod lleol yn cymryd cyfrifoldeb dros gynnal y cynllun.

Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol benderfynu os dylai gymryd cyfrifoldeb o’r cynllun (oni bai fod penderfyniad eisoes wedi cael ei wneud ac nad yw anghenion y plentyn neu’r person ifanc wedi newid yn sylweddol ac nad oes gwybodaeth newydd fyddai’n effeithio ar y penderfyniad.) Pan na fydd yr awdurdod lleol yn cymryd gofal o’r cynllun, bydd y plentyn a’r rhieni neu’r person ifanc yn cael eu hysbysu o’r penderfyniad, yn ysgrifenedig.

Cysylltwch â Ni