Ar-lein, Mae'n arbed amser

Education Other Than at School

Mae Dysgu Arbennig ar gael i ddarparu addysg am gyfnod byr i ddisgyblion na all, oherwydd problemau meddygol, seiciatrig, seicolegol neu ymddygiadol, fynychu’r ysgol. Mae parhad addysg drwy gyswllt rheolaidd a llif gwybodaeth rhwng y gwasanaeth ac ysgol y disgybl o’r pwysigrwydd pennaf.

Nid darparu ateb amgen parhaol yn lle ysgol llawn amser yw nod Dysgu Arbennig, ond yn hytrach, leihau’r anawsterau pan fo rhesymau meddygol neu arall yn arwain at absenoldeb hir dymor o’r ysgol ac yn ei hanfod hwyluso dychweliad y disgybl i addysg lawn amser. 

Mae Dysgu Arbennig yn bodoli i ddiwallu cyfrifoldeb statudol yr Awdurdod Lleol tuag at ddisgyblion na all fynychu’r ysgol ac mae’n ceisio atal disgyblion o’r fath rhag syrthio’n ôl gyda’u haddysg.

Gellir dyrannu Dysgu Arbennig ar un o bedair lefel

  • Dysgu wyneb yn wyneb yn y cartref
  • Dysgu wyneb yn wyneb mewn lleoliad cymunedol
  • Dysgu grŵp bach (rhwng dau a phum disgybl) mewn lleoliad cymunedol

Dysgu grŵp bach (rhwng dau a phump o bobl) mewn lleoliad ysgol neu gyda darparwr allanol

Cysylltwch â Ni