Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cynllun Strategaeth Cymraeg mewn Addysg

Gwybodaeth bellach:

Gweler y ddolen isod ar gyfer y fersiwn anemeiddio i Llyfryn Bod yn Ddwyieithiog. 

https://www.facebook.com/watch/?v=592800919038871

Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2022-2032

 

Dylid ystyried Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2022-2032 Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yng nghyd-destun strategaeth ehangach Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg.

Gweledigaeth Llywodraeth Cymru yw gweld miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.  Er mwyn cyflawni hynny, mae Llywodraeth Cymru’n credu bod angen gwneud sawl peth, gan gynnwys:

  • mwy o blant mewn addysg cyfrwng Cymraeg;
  • cynllunio gwell o ran sut y mae pobl yn dysgu’r iaith;
  • cyfleoedd amlycach i bobl ddefnyddio’r iaith;
  • seilwaith cryfach a chwyldro i wella darpariaeth ddigidol yn Gymraeg; a
  • newid y ffordd yr ydym yn ei thrafod.

Yn ôl y Cyfrifiad diweddaraf yn 2011, roedd 562,000 o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.  Ar y sail honno, nod strategaeth Llywodraeth Cymru fydd bron iawn dyblu nifer y siaradwyr Cymraeg erbyn hanner ffordd drwy’r ganrif.

Bydd y Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA) hwn yn rhedeg o fis Medi 2022 tan 2032.  Er ei fod yn canolbwyntio ar gynyddu capasiti darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws y Fwrdeistref Sirol, rhaid ei ddarllen ochr yn ochr â Strategaeth Iaith Gymraeg y Cyngor (SIG) gan fod y ddau yn gydffiniol ac mae gweithredoedd un yn cefnogi'r llall.

Rydym yn falch o gael ym Merthyr Tudful un o'r ysgolion uwchradd cyfrwng Saesneg cyntaf yng Nghymru i dderbyn Gwobr Aur Campus, ac mae nifer cynyddol o'n hysgolion yn gweithio ar lwyddo gyda'r cynllun Gwobr hwn.  Mae ymgysylltiad a llwyddiant ein hysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg a niferoedd cynyddol o ysgolion cyfrwng Saesneg yn Eisteddfod yr Urdd yn dyst i'r ymrwymiad i'r Gymraeg ar draws ein lleoliadau addysg.

Yn ystod y deng mlynedd nesaf bydd lleoliadau addysg ar draws Merthyr Tudful yn gweithio tuag at darged Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a bydd gweithredoedd y Cynllun hwn yn gwneud llawer i gefnogi hynny.

Ein gweledigaeth yw:

Merthyr Tudful: #Shwmaeronment - man lle mae'r Gymraeg yn cael ei dathlu.

'Parhau i dyfu cyfleoedd ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg ar draws y Fwrdeistref Sirol, gan gefnogi teuluoedd a gweithwyr proffesiynol i ddatblygu eu sgiliau yn y defnydd o'r Gymraeg fel eu bod yn fwy hyderus i ddefnyddio'r iaith lle bynnag y maent.'

Rydym wedi ymrwymo i:

  • hwyluso'r defnydd ehangach o'r Gymraeg mewn ysgolion a'r gymuned ehangach a hyrwyddo hunaniaeth Cymru;
  • gweithio gyda phartneriaid i hyrwyddo a chynyddu'r defnydd o'r Gymraeg mewn ysgolion ac ar draws y Fwrdeistref Sirol;
  • datblygu darpariaeth ymhellach ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg;
  • dathlu cynnydd ac ymrwymiad i ddatblygu'r Gymraeg ym mhob lleoliad; a
  • datblygu cymorth i ddysgwyr sydd â dysgu ychwanegol drwy gyfrwng y Gymraeg, gan sicrhau eu bod yn cael cyfle ieithyddol cyfartal.

Bydd hyn yn cael ei wneud trwy yr amcanion sydd wedi cael ei osod gan Llywodraeth Cymru ar gyfer pob CSCMA sef: -

Mwy o blant meithrin / plant tair oed yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg

Mae mwy o blant Dosbarth Derbyn / plant pump oed yn derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae mwy o blant yn parhau i wella eu sgiliau Cymraeg wrth drosglwyddo o un cam o'u haddysg statudol i un arall

Mae mwy o ddysgwyr yn astudio ar gyfer cymwysterau wedi'u hasesu yn y Gymraeg (fel pwnc) a phynciau trwy gyfrwng y Gymraeg

Mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio'r Gymraeg mewn gwahanol gyd-destunau yn yr ysgol

Cynnydd yn y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg i ddisgyblion sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn unol â'r dyletswyddau a osodir gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

Cynyddu nifer y staff addysgu sy'n gallu addysgu Cymraeg (fel pwnc) ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg

Drwy gydol oes y Cynllun hwn a thu hwnt, ein nod yw gwneud Merthyr Tudful:

  • yn ardal lle mae pob dysgwr yn cael cyfle i ddatblygu a chynyddu eu defnydd o'r Gymraeg ym mhopeth maen nhw'n ei wneud;
  • yn ardal lle mae manteision dwyieithrwydd, yn wybyddol, yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn addysgol yn cael eu hyrwyddo ledled y gymuned;
  • yn ardal lle mae'r holl bartneriaid yn chwarae eu rhan i wella cyfleoedd a'r defnydd o'r Gymraeg o fewn a thu hwnt i'r amgylchedd dysgu;
  • yn ardal lle mae rhieni a'r teulu ehangach yn cael pob cyfle i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg fel y gallant gefnogi datblygiad iaith eu plant;
  • yn ardal lle mae gweithlu'r ysgol yn cael cyfle i ddatblygu eu cymhwysedd a'u hyder i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg;
  • yn ardal lle mae dilyniant o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg cyn ysgol i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a gynhelir yn cael ei chefnogi'n llawn ac ar gael i bawb;
  • yn ardal lle mae dilyniant ieithyddol ar draws meysydd cwricwlaidd wrth drosglwyddo o addysg cyn ysgol i addysg gynradd, o addysg gynradd i addysg uwchradd ac o addysg uwchradd i addysg bellach neu gyflogaeth yn cael ei gefnogi a'i ddatblygu; a
  • yn ardal lle cefnogir hwyrddyfodiaid i addysg cyfrwng Cymraeg i ddatblygu eu sgiliau fel eu bod yn gallu parhau â'u haddysg drwy eu dewis iaith.

 

Cysylltwch â Ni