Ar-lein, Mae'n arbed amser
Am Ysbrydoli i Weithio
Arianir Ysbrydoli i Weithio trwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop (CGE) er mwyn gweithio â phobl ifanc sydd rhwng 16 a 24 oed nad sydd mewn cyflogaeth, addysg nac hyfforddiant (NEET.)
Mae Tîm Ysbrydoli i Weithio’n cynnig cymorth trwy dîm gwaith ieuenctid profiadol a chymwys.
Mae Ysbrydoli i Weithio yn cynnig pecynnau sydd wedi eu teilwra i gwrdd ag anghenion pobl ifanc all gael eu darparu ar lefel un i un neu mewn sesiynau ar gyfer grwpiau bychan.
Mae’r sesiynau hyn yn gymorth i wella iechyd a lles, ennill cymwysterau a chanfod ffyrdd addas i gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant.
Beth all Ysbrydoli 2 ei gynnig i chi?
- Cymwysterau Cydnabyddedig
- Achrediad a Hyfforddiant sy’n berthnasol i’r Gwaith
- Paratoi am Waith
- Cyfleoedd Lleoliad Gwaith
Am wybodaeth bellach am Ysbrydoli i Weithio cysylltwch â ni ar 01685 727457.