Ar-lein, Mae'n arbed amser

Camu’Mlaen

Cefnogaeth Atal Ieuenctid wedi ei Dargedu

Mae Tîm gwaith Ieuenctid Camu’Mlaen yn gweithio gyda phobl ifanc 11-25 oed a all fod yn dioddef o faterion lles emosiynol, maent hefyd yn gweithio gyda phobl ifanc a all fod o risg o ddigartrefedd.

Mae’r tîm yn gweithio’n agos gyda phobl broffesiynol eraill yn y Gwasanaethau Ieuenctid, Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai, Y Trydydd Sector, ysgolion uwchradd a darparwyr Ôl 16 i gefnogi’r agenda lles ac iechyd a digartrefedd.

Lles Emosiynol

Mae’r tim yn cynnig cefnogaeth iechyd a lles un i un anghlinigol i bobl ifanc. Maent hefyd yn darparu sesiynau grwp ar destynau iechyd meddwl a lles emosiynnol.

Mae’r rhaglen gwaith grŵp yn ymdrin â’r ardaloedd canlynol:

  • Cydnabod iechyd meddwl.
  • Y gwahaniaeth rhwng iechyd meddwl a salwch meddwl.
  • Adnabod arwyddion meddwl am hunanladdiad a hunan niwed.
  • Dod o hyd i rwydweithiau cefnogaeth i bobl ifanc yn brwydro gyda’u hiechyd meddwl.
  • Datblygu sgiliau ymdopi a meddylgarwch.

Atal Digartrefedd Yn yr Ifanc

Mae’r tîm yn ymgymryd â gwaith atal un i un ar ddigartrefedd yn yr ifanc ac maent hefyd yn cynnig rhaglen grŵp yn defnyddio adnoddau gan Shelter Cymru.

Mae’r rhaglen gwaith grŵp yn adnodd codi ymwybyddiaeth i bobl ifanc 11-18 oed gyda’r bwriad o leihau digartrefedd yn y dyfodol ac anghenion tai ymysg pobl ifanc.

Mae’n cyflwyno agweddau amrywiol o ddigartrefedd a thai yn y meysydd canlynol:

  • Canfyddiadau ac Ystrydebau.
  • Sgiliau byw’n Annibynnol.
  • Gwybod ble i wneud cyfeiriad am gefnogaeth os ydych chi'n wynebu digartrefedd.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Clare Williams ar 07800 708720 neu e-bostio Clare.Williams@merthyr.gov.uk

Cysylltwch â Ni