Ar-lein, Mae'n arbed amser

Marchnad Ffermwyr

Dydd Gwener cyntaf bob mis, ar Stryd Fawr Merthyr Tudful.

Yn ôl yr arfer cewch gynnyrch ffres o safon sydd wedi ei dyfu, ei fagu neu ei wneud o fewn cwmpas 50 milltir.
 
Wrth brynu yn y Farchnad Ffermwyr byddwch yn cefnogi Ffermwyr Cymru ac yn helpu i yrru'r economi leol.  Mae llawer o'r bwyd sydd yn y farchnad yn enillwyr gwobrau Gwir Flas Cymru sy'n cydnabod y gorau o fwyd Cymru.
 
Rhestr Masnachwyr:

  • Andcrafted - gemwaith wedi ei wneud â llawn gan Andrea
  • Coity Bach - porc lleol
  • Cig Mynydd Cymru -  cig oen ac eidion ffres o Gymru
  • Tai Gwydr Cyfarthfa: Llysiau ffres a phlanhigion
  • Craig's Veg Stall - Masnachwr gwadd yn gwerthu llysiau a ffrwythau tymhorol o Brydain
  • Masnach Deg Merthyr - Detholiad o gynnyrch Masnach Deg, yn cynnwys siocled, grawnfwyd a bisgedi.  Te a choffi am ddim
  • Groundwork - gwaith pren cynaliadwy
  • House of the Rising Bun - Bara arbennig o Henffordd.
  • Oriel Lee Price - Printiau a chardiau o dirluniau lleol a phobl ar gael yn syth gan yr arlunydd
  • Newman's Homemade Preserves - Jam, siytni, sawsus a phicls.
  • Cakes Couture - cacennau bach, gateaux a chacennau hufen
  • Wyau Trecastell/Trecastle Eggs - Wyau iâr a hwyaden ffres
     

Os ydych yn magu, tyfu neu'n gwneud eich bwyd eich hun, byddem yn falch iawn o glywed gennych.  Rydym yn chwilio am fasnachwyr newydd i ymuno â ni sy'n gallu cyflenwi rhywbeth nad ydym yn ei gynnig ar hyn o bryd.

 

Ar hyn o bryd mae gennym le i:

  • Ffrwythau
  • Cacennau
  • Llysiau
  • Pysgod

Cysylltwch â Ni

Hysbysebion

A-Y o Wasanaethau
A B C Ch D dd E F Ff G ng H I L Ll M N O P ph R Rh S T th U w Y