Partion Stryd Coroniad y Brenin
Ar-lein, Mae'n arbed amser
Partion Stryd Coroniad y Brenin
Cyfarwyddiadau trefnu cau ffordd / parti stryd
Mae’r Cyngor am ei gwneud yn haws i bobl gynnal partïon stryd i ddathlu Coroniad y Brenin.
Mae trefnu partïon stryd fechan yn syml ac fel arfer ddim angen trwydded i werthu alcohol a chynnal adloniant penodol.
Os hoffech gynnal parti stryd fach i ddathlu Coroniad y Brenin defnyddiwch y ffurflen gais i hysbysu’r Cyngor o ddigwyddiad wedi ei drefnu (parti stryd) a gwnewch gais am unrhyw gauead stryd sydd ei angen.
Er mwyn cynnal parti stryd ar neu oddi fewn i’r ffordd rhaid gwneud cais am ganiatâd gan y Cyngor er mwyn gallu cau'r stryd yn gyfreithlon rhag cerbydau.
Rhaid derbyn ceisiadau ar gyfer cau ffordd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful erbyn dydd Gwener 28 Ebrill 2023.
lawr lwythwch gais cau ffordd YMA
E-bostiwch eich cais at Coronation@merthyr.gov.uk
Bydd y Cyngor yn darparu rheolaeth traffig
Yn seiliedig ar gwrdd â gofynion a chaniatâd yn cael ei dderbyn, bydd y cyngor yn ceisio trefnu a thalu am gostau rheolaeth traffig addas (er enghraifft, arwyddion a chonau)
Dim ond cul-de-sacs a ffyrdd bychan sydd ddim yn cael eu defnyddio ar gyfer traffig trwodd fydd yn cael eu hystyried ar gyfer y broses syml hon.
Os nad yw eich stryd yn addas ar gyfer y math hwn o gau, ond rydych yn dal eisiau cynnal digwyddiad, mae sawl opsiwn arall ar gael.
Mae awgrymiadau am drefnu digwyddiadau llwyddiannus ar gael ar
Ystyriaethau eraill
Trwyddedau
Os ydych yn ystyried darparu alcohol am ddim yn eich digwyddiad, o dan amgylchiadau arferol does dim angen trwydded. Os ydych yn bwriadu gwerthu alcohol bydd angen Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro (HDDD).
Bydd angen HDDD os ydych yn bwriadu
- Chwarae cerddoriaeth byw wedi ei recordio ar gyfer adloniant
- Cynnal perfformiadau byw, dangos ffilm neu ddawnsio
- Gwerthu alcohol
- Gwerthu bwyd twym a diod rhwng 11yh a 5yb
Os ydych yn bwriadu cael tombola neu gwerthu raffl ac nad yw’r gwobrau werth mwy na £500, nid yw rheoliadau hapchwarae yn weithredol.
Os yw tocynnau yn cael eu gwerthu ymlaen llaw bydd rhaid cofrestru gyda Thrwyddedu fel Loteri Fach Gymdeithasol.
Cysylltwch gyda’r Adran trwyddedu ar licensing@merthyr.gov.uk neu ffoniwch 01685 725000 am fwy o wybodaeth a chyngor.
Offer Chwyddadwy
Ydych chi’n bwriadu cael offer chwyddadwy yn eich digwyddiad?
Cafwyd rhai marwolaethau ac anafiadau trasig yn ymwneud â phlant ac offer chwyddadwy. Fel Trefnydd, mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn dilyn canllawiau i liniaru’r amrywiol ffactorau a all gyfrannu at ddamweiniau sy’n ymwneud â chestyll bownsio a dyfeisiau bownsio tebyg, ynghyd â’r rhagofalon y dylid eu cymryd i’w hosgoi. Fel Trefnydd Digwyddiad, dylech ofyn i’ch cyflenwr ddarparu tystiolaeth fod yr offer chwyddadwy y mae’n ei gyflenwi yn cydymffurfio â BS EN 14960:2013, yn cael ei archwilio a’i gynnal a chadw’n rheolaidd, ac yn gallu cael ei ddefnyddio’n ddiogel. Bydd angen i chi ddilyn ei arweiniad ar y ffordd y dylid defnyddio’r offer chwyddadwy a rhaid i’r offer gael ei oruchwylio’n briodol yn unol â’r canllawiau cyfredol.
Diogelwch bwyd
Ydych chi a’ch cymuned yn darparu bwyd yn eich digwyddiad?
Bwriad y dasg o ddarparu gwybodaeth ynghylch partïon stryd yw helpu trefnwyr digwyddiadau untro i gyrraedd safonau da o ran hylendid bwyd. Er ei bod yn annhebygol y bydd y digwyddiad yn dod o dan reoliadau hylendid bwyd, rhaid i drefnwyr sicrhau bod y bwyd a ddarperir yn ddiogel i’w fwyta.
Mae trin bwyd yn ddiogel yn hanfodol mewn partïon stryd. Am gyngor pellach, ewch at y canlynol:
Sut i gynnal parti stryd yn ddiogel | Asiantaeth Safonau Bwyd (food.gov.uk)
Darparu bwyd mewn digwyddiadau cymunedol ac elusennol | Asiantaeth Safonau Bwyd (food.gov.uk)
Diogelwch bwyd | Asiantaeth Safonau Bwyd (food.gov.uk)
Your guide to organising a street party - GOV.UK (www.gov.uk) (Saesneg yn unig)
Alergenau
Rydym yn argymell: gorau po fwyaf o wybodaeth y gallwch ei darparu am alergenau ar lafar neu ar bapur i fynychwyr. Drwy hynny, gallant wneud dewisiadau diogel, yn enwedig ar gyfer y rhai ag alergeddau. “Dim lluniaeth ar amheuaeth!” – i’r rhai a allai fod ag alergedd.
Paratoi bwyd gartref?
Dylai Trefnwyr sicrhau bod unrhyw un sy’n ymwneud â pharatoi bwyd ar gyfer digwyddiadau yn deall hanfodion hylendid bwyd da, ac yn paratoi ac yn trin yr holl fwydydd risg-uchel yn ofalus.
Darparwch y dudalen hon i’r rhai sy’n bwriadu paratoi bwyd gartref:
Mae hylendid da yn bwysig iawn, a dylech bob amser wneud y pethau canlynol:
- Golchwch eich arwynebau gwaith a’ch sinciau â dŵr sebon poeth a chwistrell gwrthfacterol (gan ei adael am yr amser a argymhellir ar y botel) cyn i chi ddechrau paratoi bwyd
- Golchwch eich dwylo cyn paratoi bwyd a pheidiwch â gwisgo gemwaith nac ewinedd ffug neu baentiedig
- Gwisgwch ddillad a ffedogau/dillad uchaf glân
- Clymwch eich gwallt yn ôl
- Cadwch anifeiliaid anwes allan o’r gegin wrth baratoi bwyd ar gyfer parti stryd
- Peidiwch byth â thrin bwyd os ydych yn dioddef o anhwylder ar y stumog neu haint ar y croen (arhoswch 48 awr ar ôl dioddef symptomau gwenwyn bwyd cyn paratoi bwyd)
- Ceisiwch osgoi paratoi bwydydd risg-uchel* fel brechdanau ymhell ymlaen llaw, yn enwedig os nad oes gennych chi le yn yr oergell i’w storio
- Os nad oes lle ar gael yn yr oergell, storiwch frechdanau, cacennau hufen a bwydydd risg-uchel eraill* mewn bocs oer gyda blociau iâ a cheisiwch eu cadw o dan 5⁰C
- Cadwch bethau parod i’w bwyta fel cacennau a bisgedi oddi wrth ac uwchlaw unrhyw fwyd amrwd, yn enwedig cig amrwd
- Coginiwch fwydydd yn drylwyr bob amser a’u hoeri cyn gynted â phosibl os na chânt eu bwyta ar unwaith
- Cadwch fwyd wedi’i orchuddio, yn ddelfrydol mewn cynhwysydd wedi’i selio wrth i chi ei gludo i’r lleoliad
- Peidiwch byth â gadael brechdanau neu fwydydd risg-uchel eraill* mewn car poeth neu gist car
*Bwydydd risg-uchel
Mae bwydydd risg-uchel yn fwydydd sy’n gallu cynnal twf bacteria, ac sy’n mynd i gael eu bwyta heb unrhyw goginio pellach. Ar gyfer ffair eglwys neu barti stryd, gallai bwydydd risg-uchel gynnwys:
- Brechdanau gyda llenwadau fel cigoedd wedi’u coginio, wy, tiwna ac ati.
- Cigoedd a chynhyrchion cig wedi’u coginio fel adenydd/coes cyw, selsig.
- Pasteiod a theisennau sawrus fel rholiau selsig, pasteiod, cîsh.
- Bwydydd barbeciw, unwaith y byddant yn barod i’w bwyta.
- Cacennau hufen.
- Pwdinau sy’n cynnwys hufen fel gato.
Yn y lleoliad
- Os yw’r digwyddiad yn cael ei gynnal y tu allan, cynlluniwch ymlaen llaw y ffordd y byddwch yn rheoli diogelwch bwyd mewn tywydd garw. Gall gwynt, glaw neu amodau poeth iawn i gyd effeithio ar ddiogelwch bwyd. A fyddai modd symud y gweithgaredd arlwyo i safle dan do petai angen?
- A oes basn golchi dwylo gerllaw, gyda chyflenwadau cyson o ddŵr poeth ac oer, sebon a thywelion papur neu ddulliau eraill o sychu dwylo? Mae golchi dwylo yn rhagofal diogelwch pwysig iawn, felly pa gyfleusterau fydd ar gael os nad oes basn golchi dwylo? Mae powlenni plastig fel arfer yn dderbyniol ar yr amod fod dŵr poeth ac oer ar gael bob amser, a bod powlenni’n cael eu gwagio ar ôl pob defnydd.**
- A oes digon o arwyneb gwaith neu fwrdd glân i arddangos bwydydd yn ddiogel ac osgoi cadw cynwysyddion bwyd ar y ddaear?
- Defnyddiwch efeiliau a thafelli cacennau glân i weini bwyd
Barbeciws
A ydych chi’n bwriadu cael barbeciw yn eich digwyddiad? Gall barbeciw arwain at risgiau ychwanegol i ddiogelwch bwyd ac i iechyd a diogelwch.
Coginiwch yn ddiogel ar farbeciw.
Bob blwyddyn, mae pobl yn cael eu taro’n sâl gan fwyd na chafodd mo’i goginio’n ddiogel ar farbeciw. Gall gwenwyn bwyd achosi chwydu, dolur rhydd, poen yn y stumog a thwymyn.
Gall bygiau fel E Coli, Salmonela a Campylobacter achosi salwch difrifol. Gallwch gymryd rhai camau syml i leihau’r risgiau hyn.
Dylech chi:
- aros hyd nes bod y siarcol yn tywynnu’n goch, gydag arwyneb llwyd powdrog, cyn i chi ddechrau coginio
- dadmer bwyd rhewedig yn llwyr cyn i chi ei goginio
- troi’r bwyd yn rheolaidd, a’i symud o gwmpas y barbeciw, i’w goginio’n gyfartal
- coginio cig hyd at y canol bob amser - efallai na fydd wedi’i goginio’n llawn hyd yn oed os yw wedi’i losgi ar y tu allan
- gwirio fod canol y bwyd yn chwilboeth
- gwirio nad oes unrhyw ddarnau pinc ar ôl mewn dofednod, porc, byrgyrs, selsig a chebabs
- gwirio bod unrhyw suddion yn rhedeg yn glir
- golchi’ch dwylo’n drylwyr bob amser rhwng cyffwrdd â bwydydd amrwd a bwydydd wedi’u coginio, ar ôl i chi ddefnyddio’r toiled ac ar ôl i chi gyffwrdd ag unrhyw sbwriel neu wastraff
- cadw cig amrwd mewn cynhwysydd seliedig ac i ffwrdd o fwydydd sy’n barod i’w bwyta, fel byns byrgyr a salad
- peidio byth â rhoi bwyd wedi’i goginio ar blât neu arwyneb yr ydych chi wedi’i ddefnyddio ar gyfer cig amrwd
- defnyddio teclynnau ar wahân ar gyfer cig amrwd a chig wedi’i goginio
- peidio â rhoi cig amrwd ar y barbeciw wrth ymyl cig sydd wedi’i goginio na chig sydd wedi’i goginio’n rhannol
- peidio ag ychwanegu saws neu farinâd at fwyd sydd wedi’i goginio os cafodd ei ddefnyddio gyda chig amrwd
- defnyddio cadachau tafladwy i glirio gollyngiadau neu i sychu arwynebau
- rhoi bwyd dros ben yn yr oergell cyn gynted â phosibl
- ailgynhesu’r bwyd dros ben i dymheredd uchel am o leiaf 10 munud
- peidio ag ailgynhesu bwyd fwy nag unwaith
- cael cyfleuster golchi dwylo ar safle’r barbeciw **.
(**Argymhellir yn gryf y dylid defnyddio unedau Teal y gellir eu rhentu am y dydd)
Os oes gennych chi farbeciw nwy LPG, gwnewch yn siŵr ei fod yn cael ei wirio gan Beiriannydd Diogelwch Nwy (LPG) cyn i chi ei ddefnyddio. Gallwch chwilio am beiriannydd lleol drwy ymweld â gwefan Diogelwch Nwy:
Rhowch ystyriaeth i leoli’r barbeciw mewn man diogel er mwyn atal llosgiadau i’r rhai sy’n ciwio am fwyd, yn enwedig plant, a rhowch ystyriaeth i’r rhagofalon diogelwch tân.
Nodyn: Darperir y wybodaeth hon fel canllaw defnyddiol.
Fel Trefnydd y Digwyddiad, rydych yn gyfrifol am sicrhau pob agwedd ar ddiogelwch hyd eithaf eich gallu.
Diogelwch mewn digwyddiadau
Er nad oes angen yn ffurfiol, efallai yr hoffech ystyried cynnal asesiad risg i baratoi at unrhyw bosibiliadau.
Gall gynnwys, tywydd gwael, cymorth cyntaf, mynediad brys, gwaredu gwastraff ayyb.
Mae mwy o gyngor ar gael ar wefan y llywodraeth.
Partïon Stryd Cynaliadwy - Awgrymiadau Gwastraff ac Ailgylchu
A ydych yn cynnal parti yn eich tŷ neu stryd i goffau coroni Brenin Siarl y Trydydd?
Peidiwch â gadael i wastraff ddifetha'r dathliad, dilynwch yr awgrymiadau hyn i gynllunio dathliad cynaliadwy trwy leihau gwastraff ac ailgylchu cymaint ag y gallwch!
- Ceisiwch osgoi defnyddio cyllyll a ffyrc, platiau a gwydrau tafladwy trwy ofyn i'ch cymdogion ddod â rhai eu hunain! Fel hyn, gall pawb wneud eu golchi llestri eu hunain ar ôl y parti.
- Addurniadau parti - Creu baneri DIY gyda hen ddarnau o ffabrig neu gerdyn lliw y gellir ei ailgylchu wedyn. Cael y plant i gymryd rhan drwy wneud cadwyni papur o bapur lliw neu gerdyn a'u hailgylchu neu eu hailddefnyddio pan ddaw'r parti i ben.
- Lleihau Gwastraff Bwyd - Bwytewch, yfwch a byddwch yn llawen, ond cyn lleied â phosibl o wastraff. Gofynnwch i ffrindiau a chymdogion wneud eu cacennau eu hunain a dod â phlât o fwyd i'w rannu, bydd hyn yn helpu i atal gwastraff bwyd a lleihau'r deunydd pacio o fwyd a brynir yn y siop.
- Os oes unrhyw fwyd dros ben, ewch ag ef adref neu os yw wedi cael ei adael yn sefyll am amser hir, ailgylchwch ef yn eich bin gwastraff bwyd. Fel arall, os oes unrhyw eitemau o fwyd heb eu hagor sy'n dal yn ddiogel i'w bwyta, gallech eu rhoi i'r banc bwyd lleol.
- Gwnewch gynllun ar gyfer casglu gwastraff, gosodwch finiau ailgylchu, bagiau a blychau o gwmpas a gwnewch yn siŵr bod pawb sy'n mynychu yn gwybod ble i ollwng unrhyw wastraff bwyd, poteli neu ganiau. Fel hyn gallwch wahanu deunyddiau y gellir ei hailgylchu wrth fynd ymlaen a helpu i leihau faint i'w glirio ar ôl y parti.
Os oes angen unrhyw gynwysyddion ailgylchu ychwanegol arnoch ar gyfer eich parti, anfonwch e-bost at wasteservices@merthyr.gov.uk a byddwn yn eu dosbarthu i chi mewn pryd ar gyfer y parti!
Yn fwy na dim, gobeithio y cewch chi hwyl a mwynhewch y dathliadau!!