Ar-lein, Mae'n arbed amser
Bathodyn Glas
Mae’r Cynllun Bathodyn Glas yn caniatáu mynediad i ddeiliaid bathodyn barcio’n agos at eu cyrchfan, boed yn deithiwr neu’n yrrwyr, er mwyn cael mynediad at nwyddau, gwasanaethau a chyfleusterau. Mae’r cynllun hefyd yn hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol a byw’n annibynnol.
Ydw i’n cymhwyso ar gyfer Bathodyn Glas?
Byddwch yn cymhwyso’n awtomatig ar gyfer Bathodyn Glas os ydych yn bodloni’r meini prawf canlynol -
- Wedi eich cofrestru’n ddall (nam difrfiol ar y golwg)
- Rydych yn derbyn Cyfradd Uwch o Gydran Symudedd Lwfans Byw i’r Anabl
- Rydych yn derbyn Taliad Annibyniaeth Personol i’r lefel canlynol ar gyfer y disgrifyddion a restrir
- Cynllunio a Dilyn Taith – 12 pwyn
- Symud o Gwmpas – 8 pwynt neu ragor
- Rydych yn derbyn Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel
- Gwnaethoch dderbyn cyfandaliad budd-dal o dan Gynllun (Iawndal) y Lluoedd Arfog a’r Lluoedd Wrth Gefn oddi fewn i lefelau tariff 1-8 ac rydych wedi cael eich asesu a’ch ardystio gan Asiantaeth y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr o fod â nam sylweddol sy’n achosi anallu i gerdded neu drafferth sylweddol wrth gerdded.
Rhaid i chi gyflwyno’r ddogfennaeth briodol i ddangos eich bod yn cymhwyso ar gyfer unrhyw un o’r uchod.
Os nad ydych yn bodloni’r meini prawf uchod, mae’n bosibl y byddwch yn cymhwyso o dan y categorïau canlynol yn ôl ein disgresiwn gan ddibynnu ar y wybodaeth yr ydych yn ei darparu i gefnogi eich cais -
- Mae gennych nam parhaol a sylweddol sy’n golygu nad ydych yn gallu cerdded neu eich bod yn cael trafferth sylweddol wrth gerdded.
- Os oes nam gwybyddol gan berson ac os nad yw’n gallu cynllunio neu ddilyn unrhyw daith i’r graddau bod angen goruchwyliaeth arno
- Mae gennych nam yn y ddwy fraich
- Plant iau na 3 oed sydd â chyflwr meddygol sy’n golygu bod rhaid iddynt fod ag offer meddygol swmpus bob amser na ellir ei gario o gwmpas gyda’r plentyn heb anhawster mawr
Rhaid i chi ddarparu tystiolaeth feddygol gefnogol i gymhwyso o dan y categorïau hyn
Sut i wneud cais
Gallwch wneud cais ar-lein ar wefan Gov.UK (dolen allanol) neu lawr-lwytho, argraffu a chwblhau y Ffurflen Gais ar gyfer Bathodyn Glas a’i hanfon at:
Siop Un Stop
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Canolfan Ddinesig
Stryd y Castell
Merthyr Tudful
CF47 8AN
Wedi i chi gyflwyno’r ffurflen, bydd angen i chi ddarparu dogfennaeth er mwyn cefnogi’ch cais ynghyd â phrawf o’ch hunaniaeth, eich man preswyl a ffotogrtaff.
Ar gyfer Bathodynau Glas sydd wedi eu colli neu sydd wedi cael eu dwyn, bydd tâl adnewyddu o £10.