Ar-lein, Mae'n arbed amser
Trwyddedau Parcio
Mae’r Cyngor wedi cyflwyno nifer o gynlluniau trwyddedau parcio ar y stryd a neilltuir ar gyfer eiddo preswyl cyfagos.
Mae’r cynlluniau’n caniatáu hawl parcio 24 awr, ac mae CBSMT yn gyfrifol am orfodi’r cynlluniau hyn. O ganlyniad, rhoddir hysbysiad cosb benodol i’r sawl a gaiff eu dal yn parcio yn y llefydd hyn heb drwydded ddilys.
Gall preswylwyr y strydoedd sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun wneud cais am drwydded. Gweler y ddolen dogfennau gyferbyn.
Mae’r trwyddedau hyn yn costio £34 yr un. Mae’r cyfyngiadau ar y nifer a’r mathau o drwyddedau yn amrywio o ardal i ardal. Mae manylion yr hawliau parcio wedi’u cynnwys yn y ffurflen gais.
Dylech gynnwys y canlynol wrth anfon eich ffurflen gais:
- Siec am y tâl priodol – yn daladwy i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.
- Trwydded Preswylwyr – Copi o ddogfen gofrestru eich cerbyd, tystysgrif yswiriant, sylwer y dylai’r ddogfen gynnwys manylion y cyfeiriad preswyl sydd wedi’i gynnwys yn y cynllun a rhif cofrestru’r cerbyd a/neu
- Trwyddedau Ymwelwyr – Prawf preswylio e.e. llyfr rhent, bil trydan
Anfonwch yr holl fanylion at One Stop Shop, Canolfan Ddinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN
I wneud ymholiadau am geisiadau tystysgrifau, ffoniwch 0 33 33 200 867 neu e-bostiwch onestopshop@merthyr.gov.uk
Am ragor o wybodaeth am y cynlluniau hyn, ffoniwch 01685 726287 neu e-bostiwch traffic.management@merthyr.gov.uk
Adnewyddu trwyddedau – Gellir gwneud hyn ar-lein.