Ar-lein, Mae'n arbed amser
Beicio Modur
Mae nifer o wahanol gyrsiau beicio modur ar gyfer beicwyr modur o bob sgil ac oedran. Mae’n ddefnyddiol ymuno â chwrs er mwyn gwella safonau beicio modur eich hun.
Mae Beicio Diogel yn brosiect beicio modur dan arweiniad yr heddlu y mae’r rhan fwyaf o heddluoedd y DU yn ei gynnal. Prif nod y cwrs yw lleihau nifer y beicwyr a gaiff eu hanafu ar y ffyrdd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn cymorthdalu nifer o leoedd ar weithdai Beicio Diogel.
Mae Beiciwr i Lawr yn gwrs y mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru’n ei redeg.
Mae’n gwrs 3 awr sy’n cynnwys:
- Rheoli sefyllfa damwain
- Cymorth cyntaf i feicwyr modur
- Gwyddoniaeth cael eich gweld
Edrychwch hefyd ar y safleoedd Facebook a Twitter gan chwilio am SWFireandRescue.
Cysylltwch â’r Tîm Diogelwch y Ffyrdd yn ysgrifenedig at:
Diogelwch y Ffyrdd
CBSMT
Uned 20
Parc Diwydiannol Merthyr Tudful
Pentrebach
Merthyr Tudful
CF48 4DR