Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cau ffyrdd a dargyfeirio traffig

Cau ffordd ar gyfer digwyddiad arbennig

Gellir trefnu cau ffordd dros dro ar gyfer digwyddiad arbennig fel dathliadau cenedlaethol a goleuo goleuadau. Caiff cau o’r fath ei gyflawni gan ddefnyddio pwerau o dan Ddeddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847. Cyn cymeradwyo cau ffordd rhaid bodloni rhai meini prawf a rhaid darparu tystiolaeth am yswiriant atebolrwydd cyhoeddus.

Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw talu holl gostau cau’r ffordd. Rhaid cael rhybudd o 6 wythnos o leiaf ar gyfer y broses. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd hefyd yw talu’r costau am arwyddion ar gyfer ffordd arall. Sut i ymgeisio

Am unrhyw geisiadau ynghylch Cau Ffordd Dros Dro, defnyddiwch ffurflen gais ar-lein.

Cau ffordd ar gyfer gwelliannau i’r Priffyrdd

Gellir trefnu cau ffordd dros dro ar ran cwmnïau gwasanaethau cyhoeddus er mwyn i waith gwella priffyrdd ddigwydd. Caiff cau ffordd yn y modd hwn ei weithredu gan ddefnyddio pwerau o dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffordd 1984. Cyn cael cymeradwyaeth am gau ffordd, rhaid bodloni rhai meini prawf penodol a chyfrifoldeb yr ymgeisydd yw talu holl gostau cau’r ffordd. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd hefyd yw talu’r costau am arwyddion ar gyfer ffordd arall.

Cysylltwch â Ni