Ar-lein, Mae'n arbed amser

Caniatáu Gorymdaith

Os oes cynlluniau gennych i gynnal digwyddiad, rhaid i chi gael caniatâd oddi wrth Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Heddlu De Cymru. Mae’n bosibl y bydd angen Cau Ffordd Dros Dro yn ystod digwyddiad er diogelwch defnyddwyr y ffordd. Mae’n ofynnol rhoi chwe wythnos o rybudd o leiaf.

Trefnydd y digwyddiad sy’n gyfrifol am sicrhau fod ymgynghoriad yn cael ei gyflawni gyda’r holl gynrychiolwyr perthnasol a phan fo’r Awdurdod wedi rhoi caniatâd am gau ffordd dros dro, bydd y trefnydd hefyd angen ystyried y pwyntiau canlynol yn ychwanegol at unrhyw amodau penodol a osodir ar stryd benodol:

  • Mynediad i  gerddwyr ar y stryd
  • Mynediad i’r Gwasanaethau Brys
  • Diogelwch digwyddiad
  • Arwyddion Cau ffyrdd a dargyfeiriadau 
  • Yswiriant Atebolrwydd y Cyhoedd
  • Mynediad cerbydau i ddreifiau, garejys a mannau parcio oddi ar y stryd
Cais am Barêd

Am unrhyw geisiadau o ran Cau Ffordd Dros Dro ar gyfer Parêd, defnyddiwch eich ffurflen gais ar-lein.

Cysylltwch â Ni