Ar-lein, Mae'n arbed amser

Niwsans golau a llygredd golau

Beth yw Niwsans Golau?

Diwygiodd Adran 102 Deddf Cymdogaethau Glân 2005 Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 i gynnwys math newydd o niwsans cyfreithlon, sef “golau artiffisial o adeiladau sy’n amharu ar iechyd neu’n niwsans". Golyga hyn y gallai golau sy’n effeithio ar ddefnydd normal eiddo rhywun gael ei ystyried yn niwsans statudol.

Cwynion nodweddiadol am niwsans golau

Mae’r cwynion mwyaf cyffredin yn ymwneud â golau o oleuadau diogelwch domestig a masnachol a golau o gyfleusterau chwaraeon, ond mae rhai cwynion yn ymwneud â goleuadau domestig a masnachol addurniadol.

Ydy’r ddeddfwriaeth hon yn cynnwys pob golau?

Mae eithriadau lle mae angen goleuadau i atal troseddu a diffyg trefn neu er diogelwch, sef:

  • maes awyrennau;
  • adeiladau harbwr;
  • adeiladau rheilffordd;
  • adeiladau tramffordd;
  • gorsaf fysiau ac unrhyw gyfleusterau cysylltiedig;
  • canolfan gweithredu cerbydau gwasanaeth cyhoeddus;
  • canolfan gweithredu cerbydau nwyddau;
  • goleudy;
  • carchar;
  • adeiladau y’u defnyddir at ddibenion Amddiffyn

Ni all y ddeddfwriaeth gynnwys goleuadau stryd oherwydd bod yn rhaid i niwsans golau ddod o olau ar adeiladau ac nid yw goleuadau stryd yn gysylltiedig ag adeiladau.

Mae hefyd amddiffyniad ar gyfer adeiladau masnach, diwydiannol, busnes neu gyfleusterau chwaraeon awyr agored bod “y dulliau ymarferol rhesymol gorau” o atal llygredd golau’n cael eu defnyddio.

Ydy niwsans golau gyfystyr â llygredd golau?

Nac ydy. Mae llygredd golau’n derm ehangach sydd hefyd yn cynnwys “gwawl”, effaith gronnus goleuadau artiffisial mewn trefi a dinasoedd sy’n gwastraffu ynni, yn tarfu ar gylchredau naturiol o anifeiliaid gwyllt ac adar ac yn amharu ar olwg seryddwyr o’r sêr.

Sut ydw i’n gallu atal fy ngoleuadau rhag bod yn niwsans golau?

Ni ddylai goleuadau diogelwch sydd wedi’u dylunio a’u gosod yn dda beri niwsans golau. Wrth osod golau dylech gadw’r canlynol mewn cof:

  • Mae’n bosibl cyflawni diogelwch trwy ddulliau eraill yn hytrach na goleuadau
  • Mae’n annhebygol y bydd angen golau diogelwch sy’n fwy na 150W arnoch. Gall goleuadau pŵer isel fod yn wrthgynhyrchiol gan eu bod yn creu cysgodion tywyll sy’n galluogi ymwthwyr i guddio
  • O ran goleuadau diogelwch, dylid anelu’r synhwyrydd i ganfod pobl ar eich eiddo, yn hytrach na cherddwyr ar y stryd neu anifeiliaid bychain yn eich gardd. Yn ddelfrydol, prynwch osodiad golau sy’n eich galluogi i anelu’r synhwyrydd yn annibynnol ar y golau.
  • Os oes amserydd ar y gosodiad golau, newidiwch ef i’r amser lleiaf er mwyn lleihau gweithrediad y golau
  • Anelwch y golau fel nad yw’n goleuo eiddo pobl eraill. Dylai’r prif baladr fod yn is na 70 gradd
  • Ystyriwch osod cwfl neu gysgod i leihau’r ardal a oleuir
  • Mae goleuadau pared neu borth hefyd yn rhoi golau ond yn gweithio ar bŵer llawer is (9W) na goleuadau fflwroleuol. Gellir eu gosod ar lefel is ac maen nhw’n cynhyrchu golau ysgafn parhaus ag ychydig iawn o gysgodion
  • Peidiwch â gosod goleuadau diangen
  • Os ydy cymydog yn dod atoch yn cwyno newidiwch gyfeiriad neu ongl eich golau i ddatrys y broblem

Beth i’w wneud os oes gennych broblem niwsans golau

Cysylltwch â’r ffynhonnell eich hun

Rydym yn annog y rheini â chwyn i geisio datrys y mater yn anffurfiol trwy fynd i weld yr unigolyn sy’n gyfrifol am y golau neu anfon llythyr ato. Os ydych wedi trafod eich cwyn gyda’r ffynhonnell, ond wedi methu â gwella’r sefyllfa, neu os nad ydych yn teimlo’ch bod yn gallu cysylltu â’ch cymydog am y broblem am ba bynnag reswm gallwch ofyn i’r Tîm Diogelu’r Amgylchedd am ymchwilio.

Cysylltwch â’r Tîm Diogelu’r Amgylchedd

Rydym yn ymchwilio i niwsans golau honedig yn yr un ffordd ag unrhyw niwsans arall a adroddir i ni. Rydym yn gwneud penderfyniad ar sail tystiolaeth ac yn ystyried sawl ffactor gan gynnwys:

  • Pa mor llachar yw’r niwsans a hyd y niwsans (am faint mae’n para pan fo’n digwydd, eiliadau, munudau neu oriau?)
  • Amledd y niwsans (pa mor aml mae’n digwydd, dyddiol, wythnosol neu bob hyn a hyn?)
  • Difrifoldeb y niwsans (ydy’r niwsans yn effeithio’n faterol ar ddefnydd rhywun o’i dŷ? Pa ystafell(oedd) mae’n effeithio arnyn nhw? Y ffactor critigol arferol yw a yw’n tarfu ar gwsg)
  • Sensitifrwydd yr un sy’n cwyno (ydy sensitifrwydd yr un sy’n cwyno i olau’n arferol neu’n ormodol?)
  • Lleoliad yr adeiladau (trefol neu wledig)

Ein cam cyntaf bydd gofyn i chi gadw dyddiadur am bythefnos. Rydym hefyd yn ysgrifennu at y ffynhonnell i dynnu’i sylw at y cwyn.

Mae rhai goleuadau’n boen heb fod yn niwsans statudol. Er enghraifft os gellir datrys y golau gormodol trwy osod llenni neu gysgodlenni arferol nid yw’n debygol y bydd yn cael ei ystyried yn niwsans. Os yw’r golau’n ddigon gormesol bod angen cysgodlenni blacowt fe allai gael ei ystyried yn niwsans.

Os cadarnheir bod niwsans golau statudol bydd y Cyngor yn rhoi hysbysiad atal sy’n galw ar y ffynhonnell i sicrhau nad yw’r golau’n peri niwsans i eraill. Nid yw hyn yn golygu bod yn rhaid iddyn nhw symud y golau i ffwrdd. Bydd ailgyfeirio’r golau’n aml yn datrys y broblem.

Cysylltwch â Ni