Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cyngor cyn i chi wneud cais

Mae’r Cyngor yn annog ac yn croesawu ymgeiswyr a datblygwyr i ymgysylltu mewn tarfodaethau cyn gwneud cais cynllunio a hynny, yn gynnar yn ystod y broses ddatblygu. Gall hyn fod o fudd er mwyn dynodi materion a gofynion cynllunio cyn i chi gyflwyno’ch cais. Gall hefyd arbed costau yn yr hirdymor os na fyddwch yn penderfynu gwneud cais a fyddai’n annerbyniol neu’n annhebygol o gael ei gymeradwyo.


Mae’n canllawiau, isod yn amlinelli yr hyn y gellir ei ddisgwyl yn ystod y broses yn ogystal â dogfennaeth berthnasol a fydd eu hangen arnoch i’w cyflwyno gyda’ch ymholiad.

I’w lawr-lwytho

Canllawiau Cynllunio Ychwanegol

Gellir dod o hyd i ganllawiau ynghylch datblygiadau preswylio, cynllun blaen siop, datblygiad cynaliadwy, tai fforddiadwy a gofynion cynllunio ar Ganllawiau Cynllunio Ychwanegol y Cyngor drwy edrych ar y dudalen Polisi Cynllunio ar ein gwefan.

Datblygiadau Mawr

Nodwch: Mae gwasanaeth Cyn Cyflwyno Cais Cynllunio’r Cyngor ar wahân i ofynion ymgynghoriad gofynnol cyn gwneud cais cynllunio sydd ar gyfer datblygwyr sydd am wneud ‘datblygiad mawr’ neu Ddatblygiadau o Bwysigrwydd Cenedlaethol (DoBC.) Am arweiniad ynghylch gofynion cyhoeddusrwydd/ymgynghoriad ar gyfer y ceisiadau hyn, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.

Cysylltwch â Ni

Oeddech chi’n chwilio am?