Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cafn Cyfarthfa a Hen Dramffordd Gurnos

Saif Hen Dramffordd y Gurnos a Chafn Cyfarthfa yng Ngheunant Taf Fach rhwng Cyfarthfa a Blaenau’r Cymoedd. Mae’r strwythurau hyn yn henebion rhestredig sy’n dyddio o 1792 a 1825 yn y drefn honno ac maen nhw wedi cael cydnabyddiaeth fel arteffactau pwysig yn hanes a threftadaeth Merthyr Tudful sy’n gysylltiedig â’r Crawshays. Roedd yr Hen Dramffordd a’r Cafn ill dau’n ffactorau allweddol o ran gwneud Gwaith Haearn Cyfarthfa’r un mwyaf yn y byd pan oedd ar ei anterth!

Dechreuodd gwaith atgyweirio a gwella safleoedd hanesyddol Cafn Cyfarthfa a’r Hen Dramffordd yn gynharach eleni.

Mae’r prosiect, sydd i fod i’w orffen ym mis Mawrth 2013, wedi derbyn arian sy’n gyfwerth â £1.5 miliwn oddi wrth brosiect prosiect ERDF Partneriaeth Parc Rhanbarthol y Cymoedd, CADW, Rhaglen Blaenau’r Cymoedd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Mae ‘Cafn Tai Mawr’ neu Gyflenwydd Llyn Cyfarthfa a’r Hen Dramffordd wedi eu lleoli tua 1.5 milltir i’r gogledd o Ganol Tref Merthyr Tudful a gellir cael mynediad ato o ochr orllewinol Parc Cyfarthfa.

Hen ddyfrffos yw’r Cafn, sy’n rhedeg tua 1km o’i ffynhonnell ar lannau Taf Fechan i Lyn Cyfarthfa, a chafodd ei adeiladu’n wreiddiol i drosglwyddo dŵr i’r Llyn a Gwaith Haearn Cyfarthfa. Erbyn heddiw mae’r hen ddyfrffos yn parhau i gyflenwi llif parhaus o ddŵr i Lyn Cyfarthfa, sydd wedi ei leoli ar brif diroedd Castell a Pharc Cyfarthfa.

Mae’r Hen Dramffordd yn rhedeg yn union o dan y Cafn ar silff a naddwyd o wyneb y graig a chafodd ei adeiladu i gludo calchfaen gan geffyl a thram o Chwarel y Gurnos i Waith Dur Cyfarthfa. Mae bellach yn ffurfio rhodfa o goed ble y gellir gweld waliau’r Cafn uwchben ac mae’n cael ei ddefnyddio’n rheolaidd gan aelodau’r cyhoedd ar gyfer mynd am dro hamddenol. Noder fod y llwybr troed ar gau ar hyn o bryd tan fis Mawrth 2013 tra bo prif waith atgyweirio a gwella yn cael ei gyflawni.

O dan arweiniad Adran Adfywio Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, mae prosiect adeiladu mawr i adfer a gwella’r henebion hanesyddol pwysig hyn yn mynd rhagddo i wneud y safle’n fwy hygyrch er budd y gymuned leol ac ymwelwyr. Yn unol â chanllawiau CADW, bydd y prosiect hefyd yn adfer strwythur y Cafn ei hun i’w atal rhag mynd â’i ben iddo a sicrhau bod y dyfrffos hynafol yn cyflenwi llif parhaus o ddŵr i Lyn Cyfarthfa, sydd wedi ei leoli ym mhrif diroedd Castell a Pharc Cyfarthfa.

Mae’r gwaith sydd ar y gweill ar hyn o bryd yn cynnwys gwaith adfer strwythur Cafn Cyfarthfa ei hun a’r waliau cadw cyfagos, clirio coed dethol, rhwydo creigiau i wyneb y graig, nodweddion i fynedfa’r safle yn cynnwys replica o dram a strwythur symbolaidd fel porth, gwella llwybrau troed, gwella mynedfeydd (gan gynnwys dwy bont droed a chroesfan pâl) a pharcio i’r anabl. Bydd y gwaith hwn yn sicrhau hir oes i’r strwythurau ac yn helpu i gadw’r atyniadau hyn ar gyfer mwynhad cenedlaethau’r dyfodol. Bydd y gwaith yn gwella arlwy’r atyniadau ymhellach a phrofiad yr ymwelwyr sy’n archwilio Ardal Dreftadaeth Cyfarthfa.

Pan fydd y llwybr wedi ailagor a’r gwaith wedi ei gwblhau, nid fydd atyniad yn gyfoethog o ran treftadaeth yn unig ond bydd hefyd ganddo’r bonws o fod wedi ei ddynodi fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) sy’n darparu cynefin amrywiol ar gyfer helaethrwydd o blanhigion ac anifeiliaid. Mae llawer o’r sliperi rheilffordd cerrig gwreiddiol ar y dramffordd wreiddiol yn parhau yn eu lle gyda gwasgnodau gweladwy o ble yr oedd gweddill y system dramffordd yn bodoli ar un adeg gan ei gwneud hefyd yn ardal o ddiddordeb archeolegol.

Wrth gerdded ar hyd y daith, byddwch yn dod ar draws rhaeadr amheuthun yn rhaeadru o’r Cafn i Afon Taf Fechan ac ysblander nodweddion craig mawreddog y waliau gwaith maen, tystiolaeth o sgil Watkin George, peiriannydd Crawshay. Os ydych chi’n wirioneddol edrych o gwmpas, mae’n bosibl y dewch chi ar draws rhai rhywogaethau prin o fwsogl a chen. Gallwch hefyd weld y pontydd canlynol: pont bwa’r Hen Bont Cefn (1715), Pont Cefn (1911) a ddyluniwyd gan yr arloeswr Ffrengig enwog Francois Hennebique a Thraphont ysblennydd Taf Fechan (1965).

Cysylltwch â Ni