Ar-lein, Mae'n arbed amser

Parciau i Bobl

Hwb o £2.7 miliwn i adfywio Parc Cyfarthfa

Mae Parc Cyfarthfa, y parc mwyaf ym Merthyr Tudful ar fin cael ei ailddatblygu’n helaeth diolch i fuddsoddiad £2.7 miliwn oddi wrth Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL), Llywodraeth Cymru, CADW a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Mae’r arian ar gyfer prosiect pedair blynedd a ddechreuodd yn gynharach eleni. Bydd y prosiect yn gweithio â’r gymuned i gadw a gwella treftadaeth ddiwydiannol a nodweddion hanesyddol Parc Cyfarthfa fel rhan o fenter Parciau i Bobl CDL.

Mae’r parc Rhestredig Graddfa II yn cynnwys 65 hectar mewn safle amlwg yn edrych dros y dref a’r hyn sy’n weddill o Waith Haearn Cyfarthfa. Y mae’n gefnlen i Gastell Cyfarthfa cartref Rhestredig Graddfa I teulu’r Crawshay ac enghraifft o breswylfa meistr haearn y 19 ganrif sydd wedi goroesi yn Ne Cymru.

Castell a Pharc Cyfarthfa eisoes yw atyniad twristaidd mwyaf pwysig y cyngor bwrdeistref a chafodd ei osod fel y seithfed ymhlith rhestr 50 Prif Atyniad y Cymoedd o bethau i’w gweld a’u gwneud yn yr ardal yn ôl pleidlais pobl leol. Y cynllun hirdymor yw datblygu Parc Cyfarthfa yn gyrchfan allweddol i ymwelwyr yn ardal y Cymoedd, diogelu ei dreftadaeth a chyfrannu at adfywiad ehangach Merthyr Tudful.

 

Mae’r prosiect Parciau i Bobl yn cynnwys dwy raglen sy’n cydweddu sef gwaith cyfalaf a rhaglen lawn o weithgareddau cydlynol. Bydd yr arian yn galluogi Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful (CBSMT) i gyflawni adferiad hanfodol i dirlun hanesyddol y parc gan gynnwys atgyweirio’r safle seindorf, yr ardd furiog a’r tai gwydr. Bydd gwaith cyfalaf yn gwella nodweddion treftadaeth allweddol gyda gwell dehongli, gwell mynediad, cysylltiadau â’r gefnwlad ddiwydiannol, gwell cyfleusterau i ymwelwyr, darpariaeth parcio a newidiadau i flaengwrt y Castell. Caiff strwythurau nad ydynt yn cael eu defnyddio fel y tŷ iâ eu hailadeiladu a’u defnyddio unwaith yn rhagor yn ogystal â nodweddion gwreiddiol fel gardd furiog y gegin a gaiff ei hadfer yn rhannol. Mae’r cynlluniau hefyd yn cynnwys gwelliannau i’r cyrtiau tenis, safle seindorf, tirlun y llyn a’r parc yn ogystal â charthu a chyweirio Pyllau Dŵr Coed y Castell.

Bydd yr ardd gegin a’r tai gwydr yn ymddwyn fel niwclews i raglen hyfforddi a datblygu sgiliau drwy ‘Raglen Gwirfoddoli a Chyfranogi Cymunedol Parc Cyfarthfa’. Bydd hyn yn helpu rhagor o bobl, ac amrywiaeth ehangach o bobl, i gymryd rhan weithredol a gwneud penderfyniad ynghylch ein treftadaeth. Mae rhaglen brentisiaeth yn rhan sylweddol o’r prosiect gan roi cyfle i bobl leol gael profiad go iawn o hyfforddiant adeiladu a garddwriaethol, yn enwedig sgiliau traddodiadol fel adeiladu waliau cerrig.

Bydd y gerddi a’r tai gwydr ar eu newydd wedd yn ganolfan hefyd i’r Grŵp Ffrindiau ymroddedig presennol gan ganiatáu iddyn nhw a gwirfoddolwyr newydd gymryd rhan mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau i ymwelwyr, gan gynnwys rôl yn yr ardd ac fel warden, teithiau tywys treftadaeth i ymwelwyr a chynorthwywyr digwyddiadau.

Mae’r arian hefyd yn gymorth i gyflogi swyddog treftadaeth, cydlynydd rhaglen gwirfoddolwyr a warden er mwyn sicrhau bod y parc yn cael ei reoli a’i gynnal a’i gadw yn y dyfodol.

Mae gweithgareddau yn mynd rhagddynt i gyflenwi dau brosiect cyfalaf eleni sef carthu ac atgyweirio Pyllau Dŵr y Castell a fydd. Bydd hyn digwydd ar yr un pryd â gwelliannau i’r llwybr gylchdaith i gysylltu mannau newydd o’r parc at ei gilydd a gwella llwybrau presennol a’r modd mae atyniadau’r parc yn cysylltu â’i gilydd.

Mae cyfleoedd i wirfoddoli yn cael eu trefnu bellach ac felly os oes gennych ddiddordeb cymryd rhan mewn rôl weithredol a chyfranogi yn y prosiectau hyn yna ffoniwch ein Cydlynydd Gwirfoddoli ar 01685 722340.

Cysylltwch â Ni