Ar-lein, Mae'n arbed amser
Rhaglen Bachler Bro
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dewis Merthyr Tudful fel tref allweddol i dderbyn buddsoddiad sylweddol, gyda hyd at £20 miliwn wedi'i ddyrannu dros y deng mlynedd nesaf drwy'r rhaglen newydd Rhaglen Bachler Bro. Mae’n fwy na grant yn unig; Mae'n gyfle i drawsnewid ein cymuned o'i gwreiddiau i fyny.
Mae'r Rhaglen Bachler Bro fenter genedlaethol, ond bydd yn cael ei lunio gan anghenion lleol. Mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio i wella'r ardaloedd lle rydym yn byw a chryfhau'r cysylltiadau sy'n ein dal at ein gilydd. Byddwn yn canolbwyntio ar feysydd allweddol sy'n effeithio'n uniongyrchol ar ein bywydau bob dydd:
- Cydlyniad
- Addysg a Chyfleoedd
- Iechyd a Lles
- Tai
- Adfywio, Strydoedd Mawr a Threftadaeth
- Diogelwch
- Cludiant
- Gwaith, Cynhyrchiant a Sgiliau
Yn arwain yr ymdrech hon mae ein Bwrdd Cymdogaeth, sydd wedi ei gadeirio a'i ffurfio'n annibynnol i gynrychioli buddiannau cymunedol, safbwyntiau busnes a sefydliadau cyhoeddus a sy’n gweithio mewn partneriaeth â'r Awdurdod Lleol. Eu cenhadaeth yw creu Cynllun Cymdogaeth deng mlynedd, gan gynnwys cynllun buddsoddi pedair blynedd i gyflawni gwelliannau diriaethol a dod â gweledigaeth ein cymuned yn fyw. Arweinir y gwaith hwn gan dri amcan craidd:
- Ardaloedd sy’n Ffynnu
- Cymunedau Cryfach
- Adennill rheolaeth
Galwad am Brosiectau' – Cronfa Balchder Bro nawr ar agor!
Mae'r bwrdd cymdogaeth Balchder Bro yn gwahodd busnesau lleol, mudiadau gwirfoddol a chymunedol ledled y fwrdeistref i wneud cais am gyllid trwy ei Raglen Grantiau Effaith Leol newydd, sy'n agor o Orffennaf 10fed.
Nod y rhaglen yw cefnogi prosiectau sy'n cryfhau ymgysylltu â'r gymuned, adeiladu gwytnwch ac annibyniaeth, gwella cymdogaethau lleol a chynyddu balchder cymunedol ledled Merthyr Tudful.
Mae grantiau rhwng £1,000 a £75,000 ar gael i sefydliadau cymwys.
Bydd angen i'ch syniad/prosiect fodloni'r flaenoriaeth/blaenoriaethau canlynol:
| Rhif Blaenoriaeth | Manylion |
|---|---|
|
P1 |
Lleihau troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASB) |
|
P2 |
Cefnogi trigolion sy'n wynebu heriau economaidd ac iechyd |
|
P3 |
Gwella cysylltedd a mynediad at wasanaethau |
|
P4 |
Darparu adfywio canol trefi effaith uchel |
|
P5 |
Diogelu a hyrwyddo treftadaeth a hunaniaeth |
|
P6 |
Gwella mannau cyhoeddus a chefnogi'r economi defnydd cymysg |
|
P7 |
Cryfhau grymuso cymunedol a gwneud penderfyniadau |
|
P8 |
Gwella mynediad at sgiliau, hyfforddiant a chyflogaeth |
|
P9 |
Cefnogi busnesau lleol a thyfu'r economi leol |
Gweler y canllawiau am fanylion llawn https://www.merthyr.gov.uk/media/11591/rhaglen-balchder-bro-merthyr-tudful-nodyn-canllawiau.pdf
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth arnoch, anfonwch e-bost at PiPP@merthyr.gov.uk
Dolenni Allweddol
Cadwch mewn cysylltiad a byddwch hyddysg bob cam o'r ffordd.
- Digwyddiadau: Edrychwch fan hyn am fanylion ynghylch cyfarfodydd cyhoeddus, y gweithdai a’r digwyddiadau cymunedol sydd ar gyrraedd.
- Cyfarfodydd, Cofnodion, ac Agendâu: Dewch o hyd i'r holl ddogfennau swyddogol o gyfarfodydd y Bwrdd Cymdogaeth. Mae’n ffordd o sicrhau tryloywder llawn.
- Adroddiad Ymgynghori: Bydd yr adroddiad terfynol o'n hymgynghoriad cyhoeddus, sy'n crynhoi'r holl adborth cymunedol, ar gael fan hyn. Adroddiad Adborth yr Ymgynghoriad
- Dogfennau'r rhaglen Cynllun ar gyfer Cymdogaeth: Dewch o hyd i holl ganllawiau’r rhaglen fan hyn Rhaglen Bachler Bro: prosbectws - GOV.UK
Gwybodaeth bellach
- Cynllun Ar Gyfer Cyfarfod Bwrdd Cymdogaethau 29ain O Awst 2025
- Cynllun Ar Gyfer Cyfarfod Bwrdd Cymdogaethau 26ain O Medi 2025
- Cynllun Ar Gyfer Cyfarfod Bwrdd Cymdogaethau 24ain O Hydref 2025
- Cynllun Ar Gyfer Cyfarfod Bwrdd Cymdogaethau 13ain O Dachwedd 2025
- Cynllun Ar Gyfer Cyfarfod Bwrdd Cymdogaethau 21ain O Dachwedd 2025
- Cynllun Ar Gyfer Cyfarfod Bwrdd Cymdogaethau 16ain O Ionawr 2026
- Cyfarfod Bwrdd Cymdogaeth Balchder Bro 17ain O Ebrill 2026
