Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cwnsela
Gwasanaeth Cwnsela Ysgolion Merthyr Tudful
Beth yw Cwnsela?
Mae’n anodd siarad â’ch ffrindiau neu’ch teulu weithiau am faterion sy’n ein poeni. Mae cwnsela’n gyfle i siarad am y materion hyn a’n teimladau mewn lle diogel. Ni fydd y cwnsler yn eich barnu na’ch cynghori, yn hytrach bydd yn gwrando ar yr hyn sydd gennych i’w ddweud ac yn eich helpu i ddeall yr hyn rydych yn ei feddwl a’i deimlo.
Mae unrhyw beth a ddywedir mewn sesiwn cwnsela’n gyfrinachol oni bai bod rhywun mewn perygl o niwed.
Ble ydw i’n gallu gweld Cwnsler?
Mae gwasanaeth cwnsela ar gael i unrhyw ddisgybl ar gofrestr un o’r pedair ysgol uwchradd ym Merthyr Tudful.
Mae’r Cwnsler yn yr Ysgolion Uwchradd ar y diwrnodau canlynol:
Ysgol Uwchradd Afon Taf
- Prynhawn dydd Mercher
- Bore dydd Gwener
Ysgol Uwchrad Bishop Hedley
- Bore dydd Iau
Ysgol Uwchradd Cyfarthfa
- Bore dydd Mawrth
- Bore dydd Mercher
Ysgol Uwchradd Pen y Dre
- Bore dydd Llun
Mae cwnsler hefyd yn ymweld ag Ysgol Arbennig Greenfield pob wythnos ac mae ar gael i ddisgyblion 11-19 oed.
Ysgol Arbennig Greenfield
- Dydd Llun a dydd Iau
Gall disgyblion ar y Rhaglen Addysg Heblaw yn yr Ysgol weld cwnsler hefyd. Cysylltwch â’r Rhaglen i weld pryd mae cwnsler ar gael.
Sut ydw i’n gallu gweld y Cwnsler?
Os ydych yn dymuno trefnu apwyntiad gyda’r Cwnsler gallwch:
- Lenwi Ffurflen Gwneud Cais am Apwyntiad ar ochr dde’r dudalen (gweler yr adran Dolenni Dogfennau);
- Siarad â’r pennaeth blwyddyn neu diwtor dosbarth;
- E-bostio’r gwasanaeth cwnsela gan ddefnyddio’r e-bost isod.
Yn dibynnu ar eich oedran gellid gofyn i’ch rhieni am ganiatâd cyn i chi weld y Cwnsler am y tro cyntaf.
Os ydych yn poeni am eich plentyn neu berson ifanc rydych yn gweithio gydag ef/hi ac yn meddwl y gallai cwnsela fod yn ddefnyddiol, cysylltwch â’i ysgol a siaradwch â’r pennaeth blwyddyn neu’r tiwtor dosbarth. Am restr lawn o ysgolion ewch i’r dudalen Rhestr Ysgolion.