Ar-lein, Mae'n arbed amser
Ysbrydoli i Weithio
Y Rhaglen Ysbrydoli i Weithio
Ydych chi'n 16-24 oed ac yn ddi-waith ar hyn o bryd? Os felly, mae’r Rhaglen Ysbrydoli i Weithio (y Rhaglen) yn dal i weithredu yn ystod y cyfnod anodd hwn ac yn cefnogi unrhyw un rhwng yr oedrannau hynny sy'n chwilio am gyfleoedd cyflogaeth neu hyfforddiant.
Mae’r Rhaglen yn brosiect a ariennir gan yr ESF a gallwn ni’ch cefnogi chi neu’ch cyfeirio chi at sefydliadau perthnasol eraill, gan ddibynnu ar eich anghenion o ran cymorth neu’r man lle rydych chi'n byw.
Gallwn gynnig cefnogaeth i chi gyda chwilio am swydd, llenwi ffurflenni cais, ysgrifennu neu ddiweddaru’ch CV, rhoi arweiniad i brosiectau sy’n cefnogi’ch iechyd a’ch llesiant, yn ogystal â chynnig hyfforddiant ar-lein am ddim ar:
- Hylendid a Diogelwch Bwyd wrth Arlwyo Lefel 2;
- Hyfforddiant Codi a Chario yn unol â Maes Llafur Lefel 2 Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd (CIEH) a Deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch y DU.
Os hoffech chi ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Lesley Jones ar 07784360847 trwy alwad ffôn neu neges destun, neu gyrrwch e-bost ataf fi yn - Lesley.jones@merthyr.gov.uk
Mae’r Rhaglen yn weithredol o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am - 5pm. Y tu allan i’r oriau hyn, byddwn yn codi’r negeseuon ffôn ac e-bost ac yn cysylltu â chi cyn gynted ag y gallwn yn ystod y diwrnodau gwaith dilynol.
COFID-19
COFID-19
Am Ysbrydoli i Weithio
Darganfyddwch beth y gallwn ei gynnig i chi.
Cymwysterau Cydnabyddedig
Darganfod am gymwysterau sy’n berthnasol i’r gwaith.
Achrediad a Hyfforddiant sy’n berthnasol i’r Gwaith
Mynychu cyrsiau byr i wella eich Sgiliau a’ch Cyflogadwyedd.
Paratoi am Waith
Enillwch gymwysterau i hybu eich Sgiliau a’ch Cyfleoedd Gyrfaol.
Cyfleoedd Lleoliad Gwaith
Rydym yn cynnig Lleoliadau Gwaith mewn amrywiaeth o Amgylchiadau Gwaith.
Clybiau Swyddi
Beth am fynd i 1 o'n canolfannau cymunedol i ddiweddaru eich CV a derbyn Cyngor ac Arweiniad pellach
Chwilio am Swydd, Cymorth Gyrfa
Defnyddiwch ein cyfleusterau i ddod o hyd i'r swydd iawn.
Ysbrydoli i Weithio a Chronfa Gymdeithasol Ewrop
Darganfod am Ysbrydoli i Weithio a’i arian drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).