Ar-lein, Mae'n arbed amser
Clybiau Brecwast
Menter Brecwast am Ddim Ysgolion Cynradd Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu brecwast iach am ddim bob dydd yn yr ysgol i holl blant o oedran ysgol gynradd yng Nghymru wedi cofrestru mewn ysgolion cynradd a gynhelir. Bydd yn galluogi rhai sydd heb dderbyn brecwast i gael brecwast yn yr ysgol.
Mae cyfyngu'r fenter i Ysgolion Cynradd yn bennaf er mwyn sicrhau nid yn unig bod ein plant ieuengaf yn cael cychwyn cadarn mewn bywyd, ond hefyd i sicrhau bod yr arfer cynyddol o fethu brecwast yn cael ei dorri mor gynnar â phosib.
Ers amser maith mae brecwast yn cael ei adnabod fel pryd pwysicaf y dydd ac mae tystiolaeth yn dangos fod brecwast iach yn cael ei gysylltu â iechyd, canolbwyntio ac ymddygiad gwell mewn plant.
Mae profiad hefyd yn dangos fod cynlluniau brecwast llwyddiannus mewn ysgolion wedi arwain at newid cadarnhaol mewn agweddau - gwell presenoldeb, llai o broblemau disgyblaeth a gwell canolbwyntio.
Mae Merthyr Tudful yn falch bod pob ysgol ym Merthyr Tudful yn cynnig clwb brecwast am ddim.
Nod y fenter clybiau brecwast am ddim yw rhoi cyfle i ddisgyblion ysgolion cynradd gael brecwast iach am ddim pob dydd.
Mae gwybodaeth am y gwasanaeth ar gael yma.
Mae tystiolaeth yn dangos bod mwynhau brecwast da yn y bore yn gwella canolbwyntio ac ymddygiad disgybl yn yr ysgol. Mae’r Clwb Brecwast hefyd yn cynnig amser chwarae a chymdeithasu dan oruchwyliaeth yn y bore gan baratoi’r plentyn am y diwrnod o’i flaen a gwella prydlondeb a phresenoldeb.
Mae Clybiau Brecwast hefyd yn ddefnyddiol i rieni sydd angen mynd i’r gwaith yn gynnar.
Mae amseroedd Clybiau Brecwast yn amrywio rhwng ysgolion, ond maen nhw’n nodweddiadol o 8.10am i 8.50am.
Cysylltwch â’ch ysgol i ddarganfod sut i gofrestru’ch plentyn ar gyfer clwb brecwast.
Bydd yr holl blant sy’n mynychu’r clwb yn cael tost, grawnfwyd neu uwd a sudd ffrwythau gydag amser chwarae dan oruchwyliaeth cyn mynd i’r dosbarth.
Rydym yn cynnig y dewis canlynol o frecwast:
- Rice Krispies
- Shredded Wheat
- Weetabix
- Creision ŷd
- Tost o fara cyflawn
- Sudd afal/oren
Rydym hefyd yn gallu darparu ar gyfer diet arbennig