Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cefnogi plant dawnus
Plant Mwy Galluog a Thalentog ym Merthyr Tudful
Yng Nghymru gelwir disgyblion dawnus yn “Fwy Galluog a Thalentog”. Yn ôl diffiniad Llywodraeth Cymru mae:
“angen cyfleoedd estynedig arnynt ar draws y cwricwlwm er mwyn datblygu’u galluoedd mewn un neu fwy o feysydd. Gall tua 20% o boblogaeth yr ysgol fod yn 'fwy galluog' a gellid ystyried y 2% ar y brig yn ‘eithriadol’.”
Mae’n ddyletswydd ar bob ysgol i ddiwallu anghenion ei holl ddisgyblion, waeth beth fo’u cryfderau a’u gwendidau. Mae pob ysgol yn y fwrdeistref sirol yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i adnabod plant mwy galluog a thalentog. Mae gan bob ysgol aelod penodol o staff sy'n gyfrifol am hybu gweithgareddau a rhaglenni i'r rheini y mae angen eu herio y tu hwnt i brif gwricwlwm yr ysgol, yn y dosbarth ac ar ôl ysgol lle bo'n briodol. Credir bod darpariaeth a chefnogaeth dda i ddisgyblion o'r fath yn sail gadarn i godi safonau ac ehangu cyfleoedd i'r holl ddisgyblion yn yr ysgol, waeth beth fo'u gallu.
Mae'r awdurdod lleol wedi annog darpariaeth i blant mwy galluog a thalentog mewn ysgolion trwy dynnu ynghyd staff o lawer o ysgolion gwahanol i dreialu rhaglenni da ac i rannu syniadau ac arfer da.
Gall galluoedd disgyblion mwy galluog a thalentog fod mewn gwahanol feysydd, gan gynnwys academaidd, creadigol ac artistig, chwaraeon, cymdeithasol ac arweinyddiaeth, a gall gwybodaeth sy'n arwain at adnabod y gallu hwnnw ddod gan yr ysgol, y rhieni a'r gymuned ehangach.
Mae rhieni'n bartneriaid hanfodol yn addysg pob plentyn. Dylai unrhyw riant sy'n teimlo bod gan eu plentyn gryfderau arbennig siarad â’r athrawon yn ysgol eu plentyn.