Ar-lein, Mae'n arbed amser

Anableddau Dysgu

Anableddau Dysgu

Rydym yn cefnogi pobl sydd ag anableddau dysgu i fod mor annibynnol ag y sy’n bosib iddynt trwy ddarparu amrywiaeth o wasanaethau.

Lle y bydd angen, byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â chyd-weithwyr Iechyd ac Addysg er mwyn sicrhau bod pobl yn derbyn y gefnogaeth briodol i gwrdd â’u hanghenion.

Gellir cysylltu â nifer o wasanaethau cymunedol heb gysylltu â'r gwasanaethau cymdeithasol a gellir dod o hyd i hyn ar wefan Dewis Cymru

Os ydych chi’n berson sydd ag anabledd dysgu neu yn ofalwr a bod angen asesiad arnoch mi ddewch o hyd i ragor o wybodaeth trwy ‘’Sut y gallaf gael Gofal a Chefnogaeth i fi fy hun neu i rywun arall’ tudalen we. 

Cyflwr Sbectrwm Awtistig (Autistic Spectrum Condition - ASC)

Mae Awtistiaeth yn aml yn enw a roddir ar ‘sbectrwm’ eang o gyflyrau sy’n cynnwys Syndrom Asperger ac Awtistiaeth Gweithredu Lefel Uchel (HFA). Pa bynnag derm a ddefnyddir, mae’n rhaid wrth ymdriniaeth debyg.

Mae Awtistiaeth yn effeithio ar bron i 1 ym mhob 100 o bobl a hynny mewn ffyrdd gwahanol. Gall rhai fyw bywydau cyffredin ac annibynnol, ffurfio perthnasau a chael plant tra y bydd angen gofal arbenigol ar eraill. Mi fydd pob un, fodd bynnag yn cael rhai trafferthion yn y tri maes canlynol:

  • Cyfathrebu cymdeithasol;

  • Rhyngweithiad cymdeithasol;

  • Dychymyg cymdeithasol.

Gall Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful hefyd asesu anghenion yr unigolyn a darparu gwasanaethau a/neu arwyddbostio gwasanaethau perthnasol.

Am gyngor a chymorth ynghylch addysg ar gyfer plant sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistig, ewch i’r dudalen Additional Learning Needs / ar Anghenion Dysgu Ychwanegol trwy’n tudalen ‘see also section’/’adran gwelwch hefyd’.

Ble gallaf ddod o hyd i ragor o fanylion?

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn awyddus i ddarparu gwybodaeth am sefydliadau all eich helpu.

Mae modd dod o hyd i ragor o wybodaeth am wasanaethau lleol ar wefan Dewis Cymru.

Fodd bynnag, nid ydym yn ardystio sefydliadau nac yn cymeryd cyfrifoldeb tros unrhyw gynnwys ar eu gwefannau.

Cysylltwch â ni:

Swyddog Dyletswydd i Oedolion
Parc Iechyd Keir Hardie
Ffordd Aberdâr
Merthyr Tudful
CF48 1BZ

Ffôn: 01685 725000
E-bost: adult.intakeservice@merthyr.gov.uk

Oriau Agor

8.30yb - 5.00yp Dydd Llun - Dydd Iau
8.30yb - 4.30yp Dydd Gwener