Ar-lein, Mae'n arbed amser
Costau Llinell Fywyd Mai 2023
Strwythur Costau Llinell Fywyd
Diweddarwyd y costau ym Mai 2023
Mae Gwasanaethau ‘Tawelwch Meddwl’ Llinell Fywyd yn cael eu cynnig i breswylwyr Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Mae gennym gyfres o daliadau penodedig ar gyfer ein hoffer a’n gwasanaeth cymorth.
Preswylwyr Merthyr
Gellir llogi offer Llinell Fywyd ar gyfer preswylwyr anabl a’u monitro am 0.36c y dydd (£130 y flwyddyn) + TAW £26.00. Os ydych yn anabl, gallech gael eich eithrio rhag talu’r taliad TAW o £26.00 (nodwch: gallai fod angen tystiolaeth.)
Os nad ydych yn anabl, byddwch yn talu 0.42c y dydd (£152.00 y flwyddyn.)
Nid ydym yn codi tâl am osodiadau newydd yn y Fwrdeistref Sirol.
Preswylwyr nad sydd yn byw ym Merthyr
Gellir llogi offer ar gyfer preswylwyr anabl am 0.36c y dydd (£130 y flwyddyn) +TAW £26.00. Os ydych yn anabl, gallech gael eich eithrio rhag talu’r taliad TAW o £26.00 (nodwch: gallai fod angen tystiolaeth.)
Os nad ydych yn anabl, byddwch yn talu 0.42c y dydd (£152.00 y flwyddyn.)
Er mwyn talu costau teithio, codir tâl, un tro o £45.00 ar gyfer gosodiadau newydd. Dylid ei dalu o flaen llaw.
Ni fyddwn yn codi tâl am gasgliadau nac am atgyweirio offer.
Offer Ychwanegol a Newydd
-
Larwm gwddf - un gyfradd o £52
-
Ceblau trydan – un gyfradd o £26.00
Anfonebu a Thaliadau
Byddwch yn derbyn anfoneb fisol cyn hir wedi i ni osod eich offer. Os bydd y gwasanaeth yn dechrau wedi 1 Ebrill 20xx, byddwch yn derbyn tâl pro rata hyd at 31 Mawrth 20xx. Bydd anfonebau yn cael eu hanfon yn flynyddol bob mis Mawrth ar gyfer y flwyddyn ariannol ddilynol ac yna’r taliad blynyddol llawn ar gyfer y gwasanaeth. Os ydych wedi dewis talu trwy Ddebyd Uniongyrchol, bydd taliadau misol yn cael eu gwneud ar y 1af o bob mis. Byddwn yn eich hysbysu’n ysgrifenedig, o leiaf 10 diwrnod cyn y tâl cyntaf. Gallwch wneud cais i dderbyn eich dogfennau’n electronig. Gellir e-bostio anfonebau i’ch cyfeiriad e-bost.
Os nad ydych am dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol, dylech dalu’n brydlon, yn ôl yr hyn a ddangosir ar yr anfoneb.
Gellir gwneud taliadau fel y ganlyn:
- Debyd Uniongyrchol (yn fisol ar y 1af o bob mis)
- Swyddfeydd Post / Lleoliadau Paypoint gan ddefnyddio’r anfoneb cod bar.
- Dros y ffôn 24/7 drwy ffonio 01685 72115*
- Ar-lein – www.merthyr.gov.uk/Pay *
*Er mwyn gwneud taliad, bydd angen eich rhif cyfeirnod cwsmer a Rhif yr Anfoneb.
Siec: yn daladwy i CBSMT a’i gyfeirio at yr Adran Refeniw, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Canolfan Dinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN **
**Dynodwch eich rhif cyfeirnod cwsmer a’ch cyfeiriad ar gefn y siec.
Gall Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful gadw’r hawl i godi taliadau, yn unol â chwyddiant, bob blwyddyn.