Ar-lein, Mae'n arbed amser
Gofal Plant - Gwasanaethau i warchodwyr plant
A oes gennych ddiddordeb mewn bod yn warchodwr plant?
Fyddech chi'n hoffi:
- Gofalu am blant a chynnig amgylchedd hapus ac ysbrydoledig iddyn nhw?
- Cael gyrfa gwerth chweil a manteisio ar lwfansau treth hael?
- Gweithio yn eich cartref eich hun a gwneud rhywbeth yr ydych wir yn ei fwynhau?
- Dechrau eich busnes eich hun a derbyn cymorth gyda'r costau sefydlu?
Os mai BYDDWN yw'r ateb yna gall gyrfa fel gwarchodwr cofrestredig fod yn ddelfrydol i chi.
Dechrau arni
I fod yn warchodwr cofrestredig bydd angen i chi gwrdd â'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gwarchodwyr Plant. Arolygaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) sy'n gyfrifol am gofrestru ac arolygu gwarchodwyr er mwyn sicrhau eu bod yn cwrdd â'r safonau.
Sut ydw i'n cofrestru?
- Rhaid i chi fynychu sesiwn briffio ar warchod. Mae'r sesiwn hwn yn rhoi gwybodaeth i chi am fod yn warchodwr plant. Mae dyddiadau sesiynau ar gael gan Nicola Lent.
- Archebwch gopi o Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gwarchodwyr Plant a phecyn gwneud cais i fod yn warchodwr gan AGGCC.
- Cwblhewch eich cwrs Cyflwyno Ymarfer Gwarchod a'ch cwrs cymorth cyntaf am ddim (cyn i chi gael eich cofrestru).
- Ewch i sesiwn mentora NCMA am gymorth ar sut i ysgrifennu eich polisïau a gweithdrefnau a fydd yn eich helpu i gwblhau rhan un a dau o'r ffurflen gais AGGCC.
- Dychwelwch ddau ran eich ffurflen gais AGGCC, ynghyd â datganiad meddygol, ffurflen Gwasanaethau Cymdeithasol a ffurflenni gais Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB)
- Cewch archwiliad cartref AGGCC a chyfweliad person addas, yn seiliedig ar y Safonau Gofynnol Cenedlaethol yng Nghymru.
Pa gefnogaeth gawn i?
Fel gwarchodwr plant newydd yng Nghymru fe allech dderbyn:
- Help ar gyfer eich cwrs ICP
- Cwrs Cymorth Cyntaf am ddim
- Grant cychwyn gan yr Adran Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant sy'n cynnwys Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus am ddim am flwyddyn a phecyn cymorth 'Tool of the Trade'.
- Mynediad at gymorth busnes gan NCMA am flwyddyn
- Aelodaeth blwyddyn o NCMA AM DDIM
Nodwch y byddai angen cyflawni cytundeb ag Adran Blynyddoedd Cynnar yr Awdurdod Lleol i gael mynediad at y gefnogaeth a'r hyfforddiant uchod.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd