Ar-lein, Mae'n arbed amser
Datblygiad Iaith Gynnar
Beth yw Datblygiad Iaith Gynnar?
Mae’r Tîm Datblygiad Iaith Gynnar yn gweithio’n agos gyda rhieni a phartneriaid i sicrhau fod pob un plentyn yn dechrau yn yr ysgol yn medru siarad yn glir a bod eraill yn eu deall.
Mae pob un plentyn, trwy gynllun Dechrau’n Deg yn cael eu sgrinio pan fyddant yn 18 mis, yn 2 flwydd oed ac yn 3 oed gan ddefnyddio offer Lleferydd ac Ieithyddol WellComm. Mae hyn yn galluogi rhieni ac arbenigwyr i ddeall a chefnogi anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu pob un plentyn.
Gall pob un plentyn sydd ar Gynllun Dechrau’n Deg gyfranogi mewn Grŵp Iaith Gynnar er mwyn datblygu eu sgiliau ieithyddol trwy stori, odl, gweithgareddau celf a llawer mwy.
Rydym yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau yn cynnwys:
- Siarad gyda’ch baban;
- Star Talkers;
- Siaradwyr Bach;
- Chatterbox.
Gellir cael rhagor o gefnogaeth gan Therapydd Iaith a Lleferydd Dechrau’n Deg.