Ar-lein, Mae'n arbed amser
Gofal Plant y tu allan i oriau ysgol
Mae gwasanaethau y Tu Allan i Oriau Ysgol yn galluogi plant i chwarae, dysgu a chael hwyl mewn grwpiau.
Fe’u lleolir gan amlaf mewn ysgolion neu gerllaw, ac mae rhagor ohonynt yn cael eu sefydlu i gynorthwyo teuluoedd â rhieni sy’n gweithio.
Gellir cofrestru gwasanaethau y tu allan i’r ysgol ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a chânt arolwg blynyddol. Mae timau o staff a elwir gan amlaf yn weithwyr chwarae yn gyfrifol am redeg y canolfannau hyn.
Mae sawl math o ofal plant y tu allan i oriau’r ysgol ar gael, felly dewiswch wasanaeth sy’n addas i chi ac i anghenion eich plentyn.
Manteision:
- Ar gael i bob plentyn o oedran ysgol
- Gall plant ddysgu, chwarae ac ymlacio gyda’u ffrindiau
- Gellir eu cynllunio ar gyfer anghenion plant â rhieni sy’n gweithio
- Pa wasanaethau sydd ar gael y tu allan i oriau’r ysgol ?
- Bydd clybiau brecwast yn agor yn y bore cyn i’r ysgolion gychwyn
- Bydd clybiau ar ôl yr ysgol yn agor yn y prynhawn ac yn gweithredu tan 6.00pm fel arfer
Cynhelir cynlluniau chwarae gwyliau yn ystod gwyliau’r ysgol. Bydd amseroedd agor yn amrywio.
Cysylltwch â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd am fanylion:
- Clybiau Brecwast
- Clybiau ar ôl yr Ysgol
- Cynlluniau Chwarae Gwyliau
Am ragor o wybodaeth, ewch I www.merthyrfis.org