Ar-lein, Mae'n arbed amser

Talu'ch dirwy sbwriel

Os ydych chi'n gollwng yn fwriadol, yn taflu i lawr neu'n adneuo sbwriel neu'n caniatáu i'ch ci faeddu heb ei godi, rydych wedi cyflawni tramgwydd o dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 a Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005. O dan y ddeddfwriaeth uchod, mae gan Swyddogion Gorfodaeth Amgylcheddol y pwerau i gyhoeddi Hysbysiad Cosb Benodedig (HCB) am y swm o £85 y drosedd.

Cwestiynau Cyffredin

Beth yw’r diffiniad o sbwriel?
Nid oes diffiniad pendant i sbwriel, mae’n cynnwys UNRHYW beth a gafodd ei daflu i ffwrdd

Sut ydw i’n adrodd yn ôl am rywun sydd wedi gollwng sbwriel neu fod angen patrolio ardal sy’n llawn sbwriel?
Gallwch e-bostio Environmental.Enforcement@merthyr.gov.uk neu ffoniwch ni ar 01685 725000.

Oes raid i mi roi f’enw a’m cyfeiriad i swyddog?
Mae’n Drosedd o dan Adran 88(8B) Deddf Diogelu’r Amgylchedd i berson fethu â darparu ei enw a chyfeiriad llawn i Swyddog Gorfodi, neu i roi enw a chyfeiriad ffug. Yr uchafswm ar gyfer gwrthod o’r fath yw £1,000 ac euogfarn droseddol yn y Llys Ynadon.

A oes gostyngiad wrth dalu’n gynnar?
Nid oes unrhyw ostyngiadau wrth dalu’n gynnar.

Beth sy’n digwydd os na fyddaf yn talu fy hysbysiad cosb benodedig?
Caiff y troseddwr 14 diwrnod, yn dilyn dyddiad cyflwyno, i dalu’r HCB. Os bydd yn methu â gwneud hynny, bydd y Cyngor yn ceisio cael euogfarn drwy’r Llys Ynadon. Os caiff ei ganfod yn euog, bydd y troseddwr yn derbyn dirwy o hyd at £2500. Mae hyn oherwydd sbwriel a throseddau baeddu cŵn yn Droseddol mewn natur ac nid yn Sifil.

Ydy’r Cyngor yn defnyddio hyn i gynhyrchu incwm?
Ni chaiff hyn ei ddefnyddio i gynhyrchu incwm mewn unrhyw ffordd. Yr unig reswm dros y gweithredu gorfodol yw i lanhau’r strydoedd yn y fwrdeistref ac addysgu troseddwyr.

Ydy’r Swyddogion Gorfodi Amgylcheddol yn cael tâl comisiwn am gyflwyno HCBau?
Nid yw’r Swyddogion Gorfodi Amgylcheddol ar gomisiwn, maen nhw’n derbyn cyflog. Nid yw’r cyflog yn cynyddu waeth faith o HCBau gaiff eu cyflwyno ac ni chaiff unrhyw gymhelliannau eu cynnig.

Allaf i apelio yn erbyn fy HCB?
Os bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn cyflwyno HCB i chi, ond eich bod chi’n anghytuno eich bod wedi cyflawni trosedd neu’n teimlo ei fod yn afresymol i ni gyflwyno’r HCB, gallwch apelio, yn ysgrifenedig i Bennaeth Gwasanaethau Cymdogol, Canolfan Ddinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

A ddylai’r Cyngor osod arwyddion os ydyn nhw’n cyflwyno HCBau?
Nid yw’n ofynnol i ni osod arwyddion ar bob stryd, heol, priffordd a pharc neu wagle agored i ddweud wrth bobl am beidio â gollwng sbwriel. Mae gollwng sbwriel yn drosedd ac wedi bod yn drosedd ers nifer o flynyddoedd.

Pam ddylwn i dalu fy HCB pan nad oedd bin o gwmpas i mi roi’r sbwriel ynddo?
Nid yw’n bosibl gosod bin sbwriel ar bob stryd, heol neu briffordd. Caiff pob ymdrech ei wneud i osod biniau ble y mae eu hangen fwyaf, fel canol y dref ac ardaloedd siopa. Pan nad oes biniau ar gael, eich cyfrifoldeb chi yw ymddwyn yn gyfrifol a chymryd eich sbwriel adref gyda chi neu ei gario nes eich bod yn gweld bin.

Fyddaf i’n parhau i gael HCB os ydw i’n cynnig casglu’r sbwriel?
Mae’r drosedd yn berthnasol i’r weithred fwriadol o ollwng, taflu neu adael sbwriel ac yna ymadael ag ef. P’un a ydych yn dewis casglu eich sbwriel ar ôl hynny ai peidio, rydych wedi cyflawni trosedd a byddwch yn derbyn HCB.