Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cymorth a chymorth llifogydd Storm Dennis

Mae Storm Dennis wedi effeithio ar lawer o gartrefi ym Merthyr Tudful ac mae preswylwyr bellach yn wynebu’r weithred dorcalonnus o lanhau.

Cafodd y dudalen hon ei chreu er mwyn rhoi gwybodaeth a chyngor i’r rheini a effeithiwyd ynghylch beth i’w wneud nesaf. Gallwch hefyd roi gwybod i ni pa gymorth sydd ei angen arnoch wrth gwblhau ein ffurflen ar-lein.

Am help a chymorth gyda’n ffurflen neu os oes unrhyw ymholiadau gennych ffoniwch ni ar 01685 727052 o 8.30am i 5pm ddydd Llun i ddydd Iau ac o 8.30am i 4.30pm ar ddyddiau Gwener.

Cynllun Caledi’r Awdurdod Lleol

 Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn cynnig cymorth ariannol i’r rheini a effeithiwyd gan y llifogydd a achoswyd gan Storm Dennis.

 Bydd pob cartref a gafodd ei effeithio yn derbyn £500 a bydd busnesau’n derbyn £1,000.

 Os nad ydych chi eisoes wedi bod mewn cysylltiad â’r Cyngor am ddifrod dŵr i’ch cartref neu fusnes, rhowch wybod i ni ar unwaith drwy gwblhau ein ffurflen.

 Y Dreth Gyngor a Rhyddhad Ardrethi Busnesau 

 Y Dreth Gyngor

Os yw eich eiddo wedi cael ei effeithio gan y llifogydd diweddar byddwch yn derbyn gostyngiad i’ch Treth Gyngor.

Cysylltwch â’r Adran Refeniw yn revenues@merthyr.gov.uk neu ar 01685 725000 am gyngor am sut i ymgeisio.

 Ardrethi Busnes

 Os ydych wedi gorfod symud allan o’ch eiddo Busnes neu os yw eich Busnes wedi cael ei effeithio’n ddrwg gan y llifogydd diweddar yna mae’n bosibl y byddwch yn gallu derbyn gostyngiad i’ch cyfrif Ardrethi Busnes.

 Cysylltwch â’r Adran Refeniw yn revenues@merthyr.gov.uk neu ar 01685 725000 am gyngor am sut i ymgeisio.

 Gellir cael gwybodaeth bellach hefyd ar wefan Llywodraeth DU – Difrod i fusnesau ac eiddo a achosir gan lifogydd.

 Cronfa Cymorth Dewisol

 Os gafodd eich eiddo ei effeithio gan y llifogydd diweddar, mae’n bosibl y byddwch yn gymwys am grant o’r Gronfa Cymorth Dewisol oddi wrth Lywodraeth Cymru i dalu am unrhyw gostau perthnasol a allai fod wedi dod ar eich rhan.

 Gellir cael gwybodaeth bellach a chyngor am sut i ymgeisio yma.

 Ymgeisio am y Gronfa Cymorth Dewisol

Cadarnhewch a oes modd ichi ddychwelyd adref 
  • Os ydych chi wedi gorfod gadael eich cartref, gwiriwch gyda'r gwasanaethau brys ei fod yn ddiogel cyn i chi ddychwelyd.
  • Efallai y bydd angen archwiliad diogelwch ar eich cartref neu fusnes hefyd gan y cwmnïau cyfleustodau cyn cael y dŵr, y nwy a’r trydan yn ôl i weithio eto. 
Glanhau ac atgyweirio eich cartref 
  • Mynnwch gyngor gan arbenigwyr cyn dechrau atgyweirio eich eiddo. Bydd angen i'r rhan fwyaf o'r gwaith atgyweirio ar ôl llifogydd gael ei wneud gan weithwyr proffesiynol sy'n cael eu penodi gan eich yswirwyr. 
  • Gall dŵr llifogydd gynnwys sylweddau niweidiol fel carthffosiaeth, cemegau a gwastraff anifeiliaid a allai eich gwneud chi'n sâl. Os byddwch chi'n dod i gysylltiad â llifddwr, golchwch eich dwylo'n drylwyr. 
  • Wrth lanhau'ch cartref ar ôl llifogydd, gwisgwch fenig, mwgwd wyneb ac esgidiau cadarn.  Sut mae glanhau'ch cartref yn ddiogel ar ôl llifogydd. 
  • Cyn i chi ddechrau glanhau, tynnwch luniau i ddogfennu difrod a chofnodi uchder y llifddwr. Gofynnwch i'ch yswiriwr cyn taflu eitemau nad oes modd eu glanhau, fel matresi a charpedi. 
  • Os ydych chi'n defnyddio gwresogyddion neu ddadleithyddion i sychu'ch eiddo, gwnewch yn siŵr bod awyru da. Peidiwch byth â defnyddio generaduron sy'n cael eu pweru gan betrol neu ddisel y tu mewn - gall eu nwyon gwacáu fod yn angheuol. 
  • Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am adfer pethau yn sgîl llifogydd, megis cael gwared ar fagiau tywod wedi'u defnyddio neu ddodrefn wedi'u difrodi, cysylltwch â ni ar 01443 425001. 
  • Gwagiwch oergelloedd a nwyddau gwyn cyn eu rhoi allan i'w casglu - mae modd ichi trefnu casgliad am ddim uchod.  
  • Wrth glirio pridd a malurion, ceisiwch osgoi eu hysgubo i lawr y draen oherwydd gallai hyn rwystro'r system ddraenio. Casglwch falurion a'u rhoi yn eich gwastraff cartref i'w gasglu. 

Amddiffyn eich eiddo rhag llifogydd yn y dyfodol 

  • Er mwyn lleihau difrod llifogydd, fe allech chi ystyried gosod teils yn lle carpedi, symud socedi trydanol yn uwch i fyny'r waliau a gosod falfiau nad ydyn nhw'n dychwelyd.
  • Mae dod o hyd i gyflenwyr cynhyrchion a gwasanaethau llifogydd ar yTudalennau Glas. 
  • Darllenwch yFforymau Llifogydd Cenedlaethol cyngor arsut i amddiffyn eich eiddo rhag llifogydd.  

Cymorth gan sefydliadau eraill: 

Council Tax Reduction

If you have had to move out of your property or your property has been affected by the recent flooding then you will be able to receive a reduction on your Council Tax.

Please contact the Council Tax section at revenues@merthyr.gov.uk or on 01685 725000 for advice on how to apply.

Useful numbers

Merthyr Valleys Homes - 0800 085 7843

Merthyr Tydfil Housing Association - 0800 7314 293

Wales and West Housing Association - 0800 052 2526

Merthyr Tydfil CBC Emergencies - 01685 385231

National Gas - 0800 111 999

Electricity Emergency – National 105

Welsh Water - 0800 085 3968

Cysylltwch â Ni