Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ysbrydoli Merthyr Tudful

Rhaglen Dechrau’n Gyflym Ysbrydoli

Mae’r Rhaglen Dechrau’n Gyflym a ariannir gan Y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn rhaglen gymhorthdal gyflogaeth, 6 mis o hyd a fydd yn gymorth i ddatblygu sgiliau a hyder cyfranogwyr. Bwriad y rhaglen yw cynorthwyo’r rheini sydd ymhell oddi wrth y farchnad lafur a’u hysbyrydoli i gyrchu byd gwaith gan brofi nifer o gyfleoedd hyfforddi ar hyd y ffordd.

Rhaglen Brentisiaeth a Rennir Ysbrydoli

Mae Rhaglen Brentisiaeth a Rennir Ysbrydoli yn cynnig prentisiaethau ymhob sector, yn amrywio o Lefel 2 i Lefel Gradd. Darperir cymorth mentora llawn trwy gydol cyfnod y brentisiaeth. Mae Rhaglen Brentisiaeth a Rennir Ysbrydoli yn cynnig profiadau unigryw ar gyfer y Prentis a’r Cwmni er mwyn gwneud y gorau posib o’r daith.

Plant sydd mewn Gofal –Rhaglen Llwybr i Waith

Mae Plant sydd mewn Gofal –Rhaglen Llwybr i Waith yn cael ei hariannu gan CBS Merthyr Tudful a’r Gronfa Ffyniant Bro. Mae’r Rhaglen yn darparu cymorth cyflogaeth, mentora, hyfforddiant ac addysgol ar gyfer Plant sydd mewn Gofal a phobl ifanc sydd yn gadael gofal sydd rhwng 14 a 25 oed. Mae’r Rhaglen Llwybr i Waith yn cynnig sicrwydd cyflogaeth ar gyfer cyfnod o 6 mis yn unrhyw sector sydd yn diwallu anghenion a dyheadau’r cyfranogwr. 

Ewch Amdani

Bwriad y cynllun yw darparu cyfleoedd addysgol a phrofiadau bywyd ar gyfer plant oed ysgol sydd mewn gofal gan gydgysylltu â byd busnes ac addysg.

Aspire Merthyr Tudful Ffurflen cysylltwch a ni

Cysylltwch â Ni

Ysbrydoli Merthyr Tudful logo

Ysbrydoli Merthyr Tudful

Quick Start MTCBC logo

Quick Start MTCBC

Ewch Amdani logo

Ewch Amdani

Llywodraeth Cymru logo

Llywodraeth Cymru

FFyniant Bro logo

FFyniant Bro

Llywodraeth y DU logo

Llywodraeth y DU

Tydfil Training  logo

Tydfil Training

Y Coleg Merthyr Tudful  logo

Y Coleg Merthyr Tudful

Llwybr At Waith logo

Llwybr At Waith

Graddedigion Venture logo

Graddedigion Venture

Coleg Caerdydd A'r Fro logo

Coleg Caerdydd A'r Fro

Prifddinas Ranbarth Caerdydd logo

Prifddinas Ranbarth Caerdydd