Ar-lein, Mae'n arbed amser
Rhyddhad Caledi Ardrethi Busnes
Mae Adran 49 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn rhoi’r disgresiwn i awdurdodau bilio (y Cyngor) leihau neu ddychwelyd taliad ardrethi i unrhyw un sy’n talu ardrethi. Gall y Cyngor wneud hynny ble mae’n fodlon y byddai’r talwr ardrethi’n dioddef caledi pe na bai’n gwneud hynny, a’i bod yn rhesymol i wneud hynny, gan roi ystyriaeth i fuddiannau’r rhai sy’n talu Treth y Cyngor.