Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cronfa Adnewyddu Cymunedol DU
- Am y Gronfa:
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn ceisio cael ceisiadau sydd tua £500,000 ar gyfer Cronfa Adnewyddu Cymunedol DU newydd sy’n anelu at gefnogi pobl a chymunedau sydd mewn mwyaf o angen ledled y DU, gan greu cyfleoedd i dreialu dulliau gweithredu newydd a syniadau arloesol ar lefel leol.
Mae’r gronfa, sydd wedi ei llunio o 90% o arian refeniw yn canolbwyntio ar gynorthwyo sefydliadau gwirfoddol / cymunedol i greu cyfleoedd a threialu dulliau gweithredu a syniadau arloesol ym Merthyr Tudful.
Disgwylir i’r ceisiadau adeiladu ar fewnwelediad a gwybodaeth leol sydd hefyd yn alinio â chynlluniau hir dymor ar gyfer twf lleol, gan dargedu pobl sydd mewn mwyaf o angen wrth gefnogi adnewyddu cymunedol.
- Lefel y Nawdd Sydd Ar Gael:
Bydd Cronfa Adnewyddu Cymunedol DU yn darparu £220 miliwn o arian ychwanegol dros 2021-2022 i helpu Llywodraeth DU i symud yn esmwyth i ffwrdd oddi wrth raglen gronfa strwythurol UE a pharatoi ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin DU.
Bydd cap o £3m i ddynodiad Merthyr Tudful ac mae’r Cyngor yn rhagweld cefnogi amrywiaeth o brosiectau drwy thema a maint, ond caiff ymgeiswyr eu hannog i fwyhau effaith a chyflenadwyedd drwy brosiectau mwy (£500,000+) ble y bo hyn yn bosibl.
Mae 90% o’r nawdd sydd ar gael drwy Gronfa Adnewyddu Cymunedol DU yn bennaf, neu’n gyfyngedig yn seiliedig ar refeniw, gyda’r holl brosiectau wedi eu cwblhau’n ariannol (hynny yw yr holl weithgaredd cyflenwi wedi diweddu) erbyn 31 Mawrth 2022.
Caiff arian cyfatebol ei annog, ond nid yw’n orfodol.
- Blaenoriaethau Buddsoddi:
Rhagwelir bod yn rhaid i brosiectau arfaethedig gyflenwi gweithgareddau sy’n unol â Manyleb Cronfa Adnewyddu Cymunedol DU (gellir ei chanfod isod yn yr adran ‘Dogfennau Allweddol’) ac alinio gydag o leiaf un o’r blaenoriaethau buddsoddi isod:
- Buddsoddi mewn sgiliau
- Buddsoddi ar gyfer busnesau lleol
- Buddsoddi mewn cymunedau a lle
- Cefnogi pobl i mewn i gyflogaeth
- Meini Prawf Cymhwysedd:
Mae’r sefydliadau canlynol yn gymwys i wneud cais am y Gronfa Adnewyddu Cymunedol:
- Cynghorau dosbarth lleol
- Sefydliadau’r sector gwirfoddol a chymunedol
- Darparwyr addysg lleol fel prifysgolion a cholegau
- Grwpiau busnes ambarél
- Sut i Ymgeisio:
Mae fersiynau Microsoft Word o Gais am y Gronfa / UKCRF ar gael o’r ddolen ar waelod eithaf y wefan hon, neu gellir anfon yn uniongyrchol at yr ymgeiswyr os ydych yn gofyn amdani oddi wrth y Cyngor gan ddefnyddio CRF@Merthyr.gov.uk. Ymhellach, os oes unrhyw gwestiynau gennych ynghylch y gronfa, yna anfonwch nhw drwy’r cyfeiriad e-bost a ddarperir.
Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Cronfa Adnewyddu Cymunedol DU (gellir dod o hyd iddi isod yn yr adran ‘Dogfennau Allweddol’). Ni dderbynnir ceisiadau mewn unrhyw fformat arall. Rhaid cyflwyno ceisiadau i ni drwy e-bost: CRF@Merthyr.gov.uk
Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn canol nos ddydd Llun 24 Mai 2021.
- Graddfeydd amser:
Dyddiad: | Carreg filltir: |
---|---|
Cyfredol | Gwahoddiad agored am geisiadau prosiect |
Canol Nos ddydd Llun 24 Mai 2021 | Dyddiad cau cyflwyno cais |
Rhwng 25 Mai i 8 Mehefin 2021 |
Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn cynorthwyo gyda cheisiadau i’r prosiect yn cynnwys:
|
Dydd Gwener 18 Mehefin 2021 | Portffolio o brosiectau a gyflwynwyd i Lywodraeth DU |
Yn hwyr ym mis Gorffennaf 2021 | Rhestr fer Llywodraeth DU a chymeradwyo cyflwyniadau i’r prosiect |
Yn gynnar ym mis Awst 2021 | Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn cysylltu ag ymgeiswyr llwyddiannus |
Yn gynnar ym mis Awst 2021 | Prosiectau’n dechrau |
Canol mis Rhagfyr 2021 | Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn ymgymryd ag adolygiad canol tymor o’r prosiectau |
Canol mis Chwefror 2022 | Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn ymgymryd ag adolygiad canol tymor o’r prosiectau |
31 Mawrth 2022 | Holl brosiectau Cronfa Adnewyddu Cymunedol DY wedi eu cwblhau’n swyddogol |
- Rôl CBSMT:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful sy’n gyfrifol am wahodd ceisiadau prosiect oddi wrth amrywiaeth o ymgeiswyr lleol.
Rôl y Cyngor yw gwerthuso’r holl geisiadau a dderbynnir a chynhyrchu rhestr fer o brosiectau ar gyfer eu cyflwyno, yn y pen draw, i Lywodraeth DU ar gyfer asesu a chymeradwyo, erbyn canol dydd 18 Mehefin 2021.
Yn dilyn hyn, bydd Llywodraeth DU yn dechrau ar gytundeb noddi gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i gyflenwi’r ceisiadau hynny a gymeradwywyd.
Yna, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn cyflwyno cytundebau i ymgeiswyr llwyddiannus ar ôl i Lywodraeth DU gytuno ar y nawdd, ac yna ymgymryd â monitro a gweithgaredd sicrwydd.
- Meini Prawf Asesu:
Caiff yr holl brosiectau eu hasesu yn erbyn yr ystyriaethau cydweddu strategaethau canlynol:
- Lefel y cyfraniad i anghenion lleol wedi ei mynegi mewn cynlluniau lleol perthnasol gyda thystiolaeth o gefnogaeth leol
- Lefel o gyfraniad i flaenoriaeth buddsoddi
- Graddau’r cyfraniad at nodau net sero, neu ystyriaethau amgylcheddol ehangach (ddim yn gymwys i ymyraethau cefnogi cyflogaeth)
- Graddau y gall prosiect lywio Cronfa Ffyniant Gyffredin DU drwy ddysgu trosglwyddadwy neu gyfle i gynyddu’r raddfa ar gyfer partneriaid lleol a Llywodraeth DU
Y graddau y mae’r prosiect yn arddangos menter wrth gyflenwi gwasanaeth, drwy:
- Gyflwyno dulliau gweithredu newydd o ran cyflenwi (er enghraifft, treialu moddau newydd o gyflenwi)
- Dulliau gweithredu integredig ar draws themâu polisi neu
- Cydweithredu ar draws mwy nag un lle
Cyflenadwyedd, Effeithiolrwydd ac Effeithlonrwydd:
Caiff pob prosiect arfaethedig ei asesu yn erbyn yr ystyriaethau canlynol o ran cyflenadwyedd, effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd:
- Y gellir ei gyflenwi, fel y cynigiwyd, erbyn Mawrth 2022 gyda cherrig milltir realistig wedi eu dynodi
- Bod risgiau’r prosiect wedi cael eu dynodi a’u bod yn cael eu lliniaru’n addas, yn cynnwys rheolaeth y rheoli ar lefel y prosiect
- Bod yr ymgeisydd yn gosod allan modd effeithiol o gyflenwi, gan gymryd i ystyriaeth lefel yr arloesedd a gynigiwyd a bydd yn gweithredu ar raddfa briodol.
- Dogfennau Allweddol:
Rhif | Enw’r Ddogfen: | Disgrifiad: |
---|---|---|
1 | Prospectus - UKCRF | Darparu trosolwg o’r gronfa, ei blaenoriaethau buddsoddi a threfniadau cyflenwi |
2 | Manyleb (Cymraeg) – y Gronfa /UKCRF | Mae'n darparu trosolwg o'r gronfa, ei blaenoriaethau buddsoddi a'i threfniadau cyflenwi |
3 | Ffurflen Gais safonol i’w defnyddio gan holl ymgeiswyr Cronfa Adnewyddu Cymunedol DU o bob rhan o’r DU. Mae’r ffurflen hefyd yn cynnwys canllaw i ymgeiswyr ar gyfer ateb cwestiynau | |
4 | Ffurflen Gais (Cymraeg) – Y Gronfa /UKCRF | Ffurflen Gais safonol i'w defnyddio gan bob ymgeisydd i Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU o bob rhan o'r DU. Mae hyn hefyd yn cynnwys arweiniad i ymgeiswyr ar ateb cwestiynau |
5 | Technical Note for Project Applicants & Deliverers - UKCRF | Darparu gwybodaeth am bwy all ymgeisio, beth all y gronfa ei gefnogi, gweithgareddau a eithriwyd, brandio, monitro a dangosyddion y gronfa |
6 | Nodyn Technegol i Ymgeiswyr a Chyflenwyr y Prosiect (Cymraeg) – Y Gronfa / UKCRF | Mae'n darparu gwybodaeth ar bwy all wneud cais, yr hyn y gall y gronfa ei gefnogi, gweithgareddau wedi'u heithrio, brandio, monitro a dangosyddion cronfa |
7 | Assessment Criteria - UKCRF | Disgrifio’r broses asesu a gaiff ei defnyddio gan y DU |
8 | Meini Prawf Asesu (Cymraeg) – Y Gronfa / UKCRF | Disgrifio'r broses asesu a gaiff ei defnyddio gan y DU |
9 | Privacy Notice - UKCRF | Esbonio hawliau’r ymgeisydd a rhoi’r wybodaeth i chi y mae gennych hawl ei chael o dan Ddeddf Diogelu Data 2018 |
10 | Hysbysiad Preifatrwydd (Cymraeg) – Y Gronfa / UKCRF | Yn egluro hawliau'r ymgeisydd ac yn rhoi'r wybodaeth y mae gennych hawl iddi o dan Ddeddf Diogelu Data 2018 |
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y Gronfa Adnewyddu Cymunedol wrth ddilyn y ddolen isod:
https://www.gov.uk/government/publications/uk-community-renewal-fund-prospectus