Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cwynion am fwydydd

Bob blwyddyn, mae'r is-adran yn derbyn nifer o gwynion gan y cyhoedd am fwydydd sydd, mae'n debyg, wedi'u halogi ac ymchwilir i bob un o'r rhain, yn aml gyda chyngor gan yr awdurdod lleol lle cynhyrchir y bwyd, i geisio sicrhau nad yw'r halogiad yn digwydd eto yn y dyfodol.

Gellir canfod rhagor o wybodaeth ar gwynion bwyd drwy glicio ar ein taflen cwynion bwyd  ar ochr dde'r dudalen hon.

Ymchwilir i adroddiadau'n ymwneud â salwch sy'n cael ei gario mewn bwyd a gwenwyn bwyd. Cliciwch ar y cyswllt i'r dudalen Clefyd Heintus – Ymchwiliad.

Er mwyn canfod ansawdd y bwyd sy'n cael ei werthu yn y fwrdeistref, mae swyddogion yn cyflwyno cannoedd o samplau fwyd a gafwyd ar hap yn gyson i'r Gwasanaeth Labordai Iechyd y Cyhoedd i'w brofi am halogiad, a lle mae problemau'n codi, bydd yr achos yn cael ei ymchwilio a'i ddatrys.

Os ydych am gysylltu â ni ynglŷn â bwyd o safon anfoddhaol a brynwyd ym Merthyr Tudful neu i roi gwybod i ni am safleoedd bwyd sy'n methu â chynnal safon foddhaol o hylendid, cysylltwch â ni.

Mewn cydweithrediad â chydweithwyr yn Safonau Masnach, mae'r isadran hefyd yn ymdrin â rhybuddion bwyd cenedlaethol i sicrhau fod bwyd peryglus wedi'i gynhyrchu mewn man arall yn cael ei dynnu oddi ar werth ym Merthyr Tudful.

 

Cysylltwch â Ni

Oeddech chi’n chwilio am?